Buddiannau Nadoligaidd i’r Gymuned gyda Tanio Cymru
Fis Rhagfyr diwethaf, buom yn cydweithio gyda’r sefydliad celfyddydau cymunedol lleol, Tanio Cymru, yn eu digwyddiad Nadolig blynyddol yn Bettws. Roedd hwn yn cynnwys cerddoriaeth offerynnol a lleisiol fyw, crefftau i’w gwneud a mynd â nhw adref, canu carolau, bwyd blasus a groto hardd gydag ymweliad gan Siôn Corn Cymraeg. Gyda chymorth un o’n datblygwyr, […]
Ein hymateb i lwydni, lleithder a chyddwysiad
Mae’n siŵr y byddwch wedi clywed am y ffocws cenedlaethol ar broblemau gyda llwydni, cyddwysiad a lleithder yn sgil marwolaeth drasig Awaab Ishak, y plentyn dwyflwydd oed o Oldham a fu farw ar ôl dod i gysylltiad â llwydni yn ei gartref dros gyfnod hir. Yn gwbl gywir, mae’r awdurdodau wedi bod yn craffu’n fwy […]
Cynllun Plannu Coed Llwyddiannus Ar Draws Pen-y-bont ar Ogwr
Yn ôl ym mis Hydref, trafodom ein cynlluniau i harddu Sir Pen-y-bont ar Ogwr trwy blannu 300 o goed a roddwyd gan Goed Cadw. Rydym wedi bod wrthi’n brysur yng Nghaerau, Maesteg, Gogledd Corneli a Phencoed dros yr wythnosau diwethaf, gyda chymorth rhai ohonoch yn y gymuned, yn cynnwys disgyblion o Ysgolion Cynradd Garth, Corneli […]
Helpu chi i gadw eich cartref yn ddiogel ac yn gynnes
Rydym yn partneru â Chymru Gynnes i helpu i sicrhau bod cartrefi ein cwsmeriaid yn ddiogel ac yn gynnes y gaeaf hwn. Mae Cymru Gynnes, y cwmni buddiannau cymunedol cyntaf yng Nghymru, yn gweithio i leddfu tlodi tanwydd yng Nghymru a’r De Orllewin trwy brosiectau cymunedol a gweithio mewn partneriaeth. Rydym yn falch iawn o […]
Cymoedd i’r Arfordir yn ennill gwobr genedlaethol am ddatblygiad tai bychan sydd wedi cael effaith fawr
Rydym yn falch i gyhoeddi ein bod wedi ennill gwobr genedlaethol o fri am arloesedd. Enillodd ein datblygiad Ffordd Yr Eglwys y categori ‘creu arloesedd’ yn y gwobrau Ystadau Cymru diweddar gan Lywodraeth Cymru. Y datblygiad pedwar cartref hwn yng Ngogledd Corneli oedd y cyntaf i gael ei adeiladu gan ddatblygwr tai cymdeithasol yn defnyddio […]
Cymoedd i’r Arfordir yn cefnogi Hale Developers gyda rhoddion i’r Sgwadron 1092 Pen-y-Bont ar Ogwr
Mae Cymoedd i’r Arfordir wedi hwyluso budd anhygoel i’r gymuned drwy baru Hale Developers a Chadetiaid Awyr Pen-y-bont ar Ogwr. I gefnogi Sgwadron 1092, mae Hale Developers wedi uwchraddio’u hystafell TG gan ddarparu gliniaduron newydd a hefyd efelychydd realiti rhithwir, yn ogystal ag ailgyflenwi eitemau ar gyfer cit Dug Caeredin y cadetiaid. Mae dros 50 […]
Cymoedd i’r Arfordir yn cefnogi Clwb Pêl-droed Cornelly United
Pan ofynnodd Clwb Pêl-droed Cornelly United i’w cymdeithas dai leol am gymorth, nid cit newydd oedd ar eu rhestr ddymuniadau, ond cegin newydd! Ac roedd Cymoedd i’r Arfordir yn falch iawn o helpu, gan weithio gyda’i chontractwr partner, ASW Property Services (ASW), i ailwampio cegin y clwb fel rhan o’i hymrwymiad budd i’r gymuned. Nawr […]
Gwaith atal plâu wedi’i drefnu yn Ffordd yr Eglwys
Bydd gwaith yn dechrau ar 28 Tachwedd i glirio darn mawr o ordyfiant yn Ffordd yr Eglwys, Gogledd Corneli. Nod y gwaith hwn yw helpu i reoli’r boblogaeth o gnofilod drwy glirio’r mannau lle gallan nhw nythu. Bydd y rhaglen waith yn para dwy neu dair wythnos. Rhaid i ni rybuddio preswylwyr y gallent weld […]
Cyflwyno ein helusen y flwyddyn am eleni … Y Bwthyn Newydd
Bob blwyddyn rydyn ni’n dewis achos i fod yn Elusen y Flwyddyn, a bydd hon yn elwa ar y gwaith codi arian gan ein cydweithwyr dros y deuddeg mis nesaf. Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi bod aelodau Cynhadledd y Cydweithwyr eleni wedi pleidleisio i gyfeirio ein hymdrechion codi arian at Y Bwthyn Newydd, sef […]
Cyngor am Ddiogelwch yn y Cartref: Peidiwch â gorchuddio awyrellau eich ffenestri
Mae awyrellau araf yn gadael awyr iach i lifo i mewn gan sicrhau bod eich cartref yn cael ei awyru’n dda. Peidiwch â gorchuddio awyrellau eich ffenestri. Mae awyrellau araf yn lleihau lleithder, ac mae hyn yn bwysig i atal cyddwysiad a llwydni. Os ydych yn poeni bod eich ffenestr yn ddrafftiog, gwnewch yn siŵr […]