Rydym yn gwybod y gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith negyddol ar fywydau pobl ac rydym wedi ymrwymo i gymryd camau amlwg i fynd i’r afael â’r adroddiadau hyn yn effeithiol. Mae aelodau ein Tîm Tai wedi’u hyfforddi ac yn brofiadol mewn helpu i ddatrys adroddiadau am ymddygia gwrthgymdeithasol, gan weithio’n agos gydag asiantaethau eraill a chefnogi cymorth gan drydydd partïon gan gynnwys yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân ac Achub, y bwrdd iechyd lleol, y Cyngor, a’r Gwasanaeth Prawf i sicrhau yr ymdrinnir â materion mor gyflym â phosibl.
Byddwn yn rhoi cyngor gonest i chi am yr hyn y gallwch ei wneud a sut y gallwn helpu i ddatrys unrhyw broblemau.
Mae tri phrif gategori ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn dibynnu ar faint o bobl sy’n cael eu heffeithio:
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol personol yw pan fydd person yn targedu unigolyn neu grŵp penodol.
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol niwsans yw pan fydd person yn achosi trafferth, annifyrrwch neu ddioddefaint i gymuned.
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol amgylcheddol yw pan fydd gweithredoedd unigolyn yn effeithio ar yr amgylchedd ehangach, megis mannau cyhoeddus neu adeiladau.
● Sŵn di-pheidio
● Ymddygiad treisiol neu sarhaus (ffoniwch 999 mewn argyfwng)
● Fandaliaeth
● Graffiti
● Brawychu
● Meddwdod cyhoeddus
● Tipio anghyfreithlon
● Defnyddio cyffuriau anghyfreithlon
● Cŵn yn cyfarth yn ormodol
Beth na ellir ei ystyried yn ymddygiad gwrthgymdeithasol?
● Sŵn neu darfu achlysurol ac anfynych
● Plant yn chwarae
● Partïon a barbeciw un-waith-yn-unig
● Ci yn cyfarth o dro i dro
● Sŵn gormodol o offer domestig (e.e. peiriannau golchi, sugnwyr llwch)
● Mân atgyweiriadau i gerbydau
● Clecs / postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol
● Anghydfodau sydd wedi gwaethygu
Noder, nid yw’r rhestrau hyn yn gynhwysfawr nac yn gyflawn, ac os nad ydych yn siŵr a yw rhywbeth yn ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu os oes angen cefnogaeth arnoch chi, ffoniwch ni ar 0300 123 2100. Rydyn ni yma i helpu!