Dylid nodi, er bod y Tîm Perchnogaeth Cartref yn hapus i gynnig cyngor ac arweiniad, efallai y bydd angen i chi hefyd geisio cyngor annibynnol gan eich cyfreithiwr neu eich Cyngor ar bopeth lleol.

What does it mean to be a leaseholder?

Pan fyddwch chi’n prynu fflat, dim ond rhan o adeilad mwy rydych chi’n ei brynu. Cymoedd i’r Arfordir, fel perchennog y bloc, sy’n gyfrifol am gynnal pob rhan o’r adeilad sy’n cael ei rannu ac am wasanaethau fel gwresogi, goleuadau. Gelwir y math hwn o berchnogaeth yn “lesddaliad”.

Mae’r brydles yn gontract ac ynddi, nodir manylion am:

  • Ystyr y gwahanol dermau a ddefnyddir yn y brydles.
  • Eich cyfrifoldebau a’ch hawliau chi.
  • Ein cyfrifoldebau a’n hawliau ni.
  • Manylion am y trefniadau ar gyfer taliadau gwasanaeth.
  • Mae’r brydles yn ddogfen gyfreithiol a gall fod yn anodd i’w deall. Cyn i chi brynu eich fflat, dylai eich cyfreithiwr fod wedi egluro’ch prydles yn llawn i chi fel eich bod yn deall eich cyfrifoldebau chi a’n cyfrifoldebau ni.

    Canllawiau yn unig sydd yn y wybodaeth a ddarperir yma. Nid yw’n rhoi cyngor cyfreithiol ac os gennych unrhyw amheuon neu os ydych yn ansicr am eich cyfrifoldebau neu eich hawliau, dylech gael cyngor annibynnol proffesiynol bob amser.

Fy niogelwch (Link opens in new window)

Am wybodaeth ddiogelwch sy’n benodol i lesddeiliad, gan gynnwys gwybodaeth am ddiogelwch tân, ewch i Fy Niogelwch

Fy Materion Cyfreithiol (Link opens in new window)

Am ragor o wybodaeth am lesddeiliaid a’r gyfraith, darllenwch ein canllaw Fy Materion Cyfreithiol.

Cwrdd â’r tîm (Link opens in new window)

Os oes gennych gwestiwn na all unrhyw ran o’r wybodaeth ar ein gwefan ei ateb, cysylltwch ag un o’n partneriaid Perchenogaeth Cartref profiadol.