Ein Hanes (Link opens in new window)

Cawsom ein sefydlu yn 2003 fel y trosglwyddiad gwirfoddol ar raddfa fawr gyntaf o dai cyngor i gymdeithas tai cymdeithasol yng Nghymru.

Rydym yn sefydliad nid er elw, wedi’i gofrestru â statws elusennol, ac rydym yn cael ein goruchwylio gan Lywodraeth Cymru.

Llanw (Link opens in new window)

Mae Llanw yn is-gwmni o dan berchnogaeth lwyr, Cymoedd i’r Arfordir Ltd., yn darparu gwasanaeth gwaith atgyweirio a chynnal a chadw i gwsmeriaid Cymoedd i’r Arfordir.

Mae’r cwmni newydd, yr ydym yn berchen 100%, yn lansio ym mis Ebrill 2024.

Darparu Tai (Link opens in new window)

Rydym yn darparu dros 6,000 o dai fforddiadwy a diogel ledled Pen-y-bont ar Ogwr, De Cymru.

Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau rheoli i 722 o fflatiau lesddaliad, mae gennym bortffolio o 50 o siopau ac eiddo arall nad yw’n eiddo preswyl wedi’i osod ar delerau masnachol, ac yn rheoli 1,129 o fodurdai.

Rydym yn canolbwyntio ar ddod yn gynaliadwy, a’r bwriad yw bod yn garbon niwtral erbyn 2030, gan adfywio ein cymunedau lleol i adeiladu Pen-y-bont ar Ogwr a Chymru well, ac yn fwy na dim, sicrhau bod ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yn ‘ddiogel a hapus’.

Ein Pwrpas (Link opens in new window)

Darparu tai a lleoedd lle mae pobl yn teimlo’n ddiogel a hapus.

Mae ein pwrpas yn disgrifio beth rydym yma i’w wneud fel sefydliad. Dyma pam rydym yn bodoli, ac mae’n llywio ein blaenoriaethau strategol. Rydym yn helpu pobl i fyw gyda’i gilydd yn annibynnol.

Ein Gweledigaeth (Link opens in new window)

Helpu i adeiladu Pen-y-bont ar Ogwr a Chymru well.

Bwriad ein gweledigaeth yw ymestyn ac ysgogi ein pobl i fynd y filltir ychwanegol a bod â dyheadau uchelgeisiol iddyn nhw eu hunain a’n cwsmeriaid. Mae’n hynod seiliedig arnom yn adeiladu partneriaethau cryf a chadarn ym mhob maes o’n busnes.

Ein hymagwedd at Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Bydd Cymoedd i’r Arfordir yn mabwysiadu ymagwedd fosäig, gan gydnabod unigoliaeth, ond gan ddathlu’r darlun sy’n swm yr holl ddarnau ar yr un pryd. Mae ein hymagwedd yn bwriadu ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wnawn.

Gwneud Nid Dweud (Link opens in new window)

Mae Tai Pawb yn elusen Cymraeg sy’n gweithio gyda sefydliadau tai, mudiadau cydraddoldeb a’r Llywodraeth i leihau rhagfarn, gwahaniaethu, bod dan anfantais a thlodi ym maes tai.
Yn 2021, llofnodwyd addewid ‘Gwneud Nid Dweud’ Tai Pawb i roi terfyn ar anghydraddoldeb hiliol ym maes Tai. Fel rhan o’r addewid, rydym wedi ymrwymo i gyflawni’r camau gweithredu canlynol dros y pum mlynedd nesaf:

  • Lleihau effaith Covid-19 ar staff a chymunedau o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill
  • Gwella amrywiaeth ethnig y Bwrdd a’r staff ar bob lefel
  • Cyfathrebu ac ymgysylltu â chydweithwyr a chymunedau ynglŷn ag anghydraddoldeb hiliol
  • Datblygu diwylliant cynhwysol.

Ein Gwerthoedd

Ein Gwerthoedd yw ein credoau sylfaenol fel sefydliad. Nhw yw’r egwyddorion arweiniol ar gyfer sut ddylai pawb yn ein sefydliad ymddwyn a gweithredu. Maent yn rhan o bob agwedd ar ein sefydliad, a dyna sy’n ein gwneud ni’n arbennig. 

Gwerthfawrogi Pobl

Rydym yn gweld y potensial mewn pobl, y rhai rydym yn gweithio gyda nhw, a’r rhai rydym yma i wasanaethu.

Meddwl yn Wahanol

Rydym yn rhoi cynnig ar bethau newydd i wella bywydau a gyrfaoedd pobl.

Dewrder i fwrw ymlaen

Rydym eisiau’r gorau i ni ein hunain, ein cydweithwyr, a’n cwsmeriaid, felly rydym yn siarad, gweithio a gweithredu gydag argyhoeddiad, cryfder a phenderfyniad.

Pwy sy’n penderfynu sut rydym yn gweithredu?

Fel sefydliad agored a thryloyw, rydym yn cynnwys cwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid i gasglu’r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn gwneud y penderfyniadau cywir.

Rydym yn cael ein goruchwylio gan Lywodraeth Cymru, gyda’n Bwrdd yn gwneud penderfyniadau strategol a’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu cyflawni.