Ers 2008, mae Valleys to Coast wedi casglu ffioedd dŵr a charthffosiaeth ar gyfer eich cartref ar ran Dŵr Cymru. Bydd hyn yn newid o 1 Ebrill 2023.

Beth fydd yn newid?

O 1 Ebrill 2023, fe fyddwch chi’n talu Dŵr Cymru yn uniongyrchol am eich ffioedd dŵr a charthffosiaeth.

Beth fydd yn digwydd i’r balans ar fy nghyfrif dŵr?

Bydd Valleys to Coast yn cau eich cyfrif dŵr presennol ar 31 Mawrth 2023, a bydd eich balans yn cael ei drosglwyddo i Ddŵr Cymru.

Bydd Dŵr Cymru yn cyflwyno bil newydd fis Ebrill 2023, a bydd y bil hwn yn cynnwys y balans.

Sut fydda’ i’n talu Dŵr Cymru?

Ceir manylion ar sut i dalu yn y cwestiynau cyffredin isod.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd Dŵr Cymru yn anfon llythyr atoch yn yr wythnosau nesaf gyda rhagor o wybodaeth am y newid.


Cwestiynau Cyffredin