Fel y landlord cymdeithasol unigol mwyaf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n rheoli tua 6,000 o gartrefi, rydyn ni eisiau darparu cartrefi lle mae pobl yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel, nawr ac yn y dyfodol.
Mae newid hinsawdd yn un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu cenedlaethau heddiw a chenedlaethau’r dyfodol, ac rydym yn canolbwyntio ar fod yn gynaliadwy a dod yn garbon niwtral erbyn 2030, gan adfywio ein cymunedau lleol ar yr un pryd er mwyn adeiladu Pen-y-bont ar Ogwr a Chymru well.