Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod am y gwasanaethau lleol a chenedlaethol sydd yma i’ch helpu os ydych chi neu rywun rydych yn eu hadnabod angen cymorth.

Cymorth ariannol a grantiau

Grant technoleg RNIB

Mae’r RNIB yn cynnig grantiau i rai pobl sydd wedi eu cofrestru’n ddall neu’n rhannol ddall ar gyfer technoleg a all eu helpu i fyw’n annibynnol. Gall y grantiau hyn helpu pobl i gyrchu dyfeisiau fel ffonau clyfar hygyrch, watshis siarad ac offer cegin.

Ffeindiwch allan a ydych yn gymwys, a sut mae gwneud cais

Am gymorth gyda’ch cais, ffoniwch ein hyb ar 0300 123 2100

Cymorth ar gyfer trais yn y cartref

Ni ddylai unrhyw un wynebu cam-driniaeth neu drais yn eu cartref, ac yn enwedig gan bartner neu aelod o’r teulu, felly rydym ninnau yn y Grŵp Cymoedd i’r Arfordir yn ymrwymedig i chwarae ein rhan yn helpu ein cwsmeriaid. Os ydych chi’n dioddef o gam-drin domestig, yn poeni am eich ymddygiad eich hun tuag at aelod o’r teulu neu os ydych yn poeni am gymydog neu anwylyd, gallai’r gwasanaethau hyn helpu.

Mae ASSIA yn darparu cymorth i bobl sy’n dioddef o drais yn y cartref ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, p’un ai ydych yn ei brofi eich hunan neu rydych yn poeni am rywun arall. Maen nhw’n cynnig cymorth ymarferol, cyngor, a lle saff i siarad, ac maent yn cydweithio’n agos gydag asiantaethau cenedlaethol i gyrchu llety argyfwng neu wasanaethau eraill. Rhif ffôn ASSIA – 01656 815919

Mae Byw Heb Ofn Cymru yn cynnig nifer o wasanaethau yn cynnwys llawer o adnoddau defnyddiol, cyfarwyddyd a llinell gymorth gyfrinachol 24 awr. Rhif ffôn Byw Heb Ofn Cymru yw 0808 80 10 800. Yn y Grŵp Cymoedd i’r Arfordir, rydym yn chwarae rhan weithredol mewn cyfarfodydd cynllunio diogelwch lleol (MARACS) lle mae’r Heddlu yn rhannu gwybodaeth am helyntion domestig gydag asiantaethau allweddol, i sicrhau dull amlasiantaeth wrth gefnogi a diogelu’r rhai sy’n dioddef.

I gael rhagor o gymorth, neu os ydych yn teimlo bod angen cymorth arnoch i gyrchu unrhyw rai o’r gwasanaethau hyn, ffoniwch ein Tîm Gwasanaeth i Gwsmeriaid ar 0300 123 2100 a byddant yn hapus i’ch cysylltu â’r aelodau cywir yn ein tîm.

Cymorth gyda chamddefnyddio sylweddau

Os ydych yn cael trafferth gyda chyffuriau neu alcohol, neu os oes angen cymorth ar rywun sy’n agos atoch, yna mae Barod yn cynnig siop un safle, gan ddod â llawer o’r gwasanaethau arbenigol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr at ei gilydd.

Mae DASPA yn wasanaeth pwynt mynediad sengl sy’n cynnig cyngor, cymorth, a thriniaeth yn gyfrinachol ac am ddim, a byddant yn dod o hyd i’r gwasanaeth cywir i’ch helpu. Maen nhw yma i wrando, ac nid beirniadu, a gallant eich helpu i gymryd camau ymlaen cadarnhaol. Maen nhw hefyd yn gallu gweithio gyda phobl ifanc dan 18 oed os ydych yn poeni am blentyn.

Mae nifer o ffyrdd y gallwch gysylltu â DASPA yn cynnwys ffonio 0300 333 0000 neu anfon testun at 07908 664 774.

Gwasanaethau iechyd meddwl

Fel gydag unrhyw bryder iechyd, y peth gorau yw dechrau’r sgwrs gyda’ch meddyg teulu trwy fwcio apwyntiad gyda nhw yn gyntaf. Gallwch hefyd ffonio Galw Iechyd Cymru ar 111 (dewis #2) a bydd y cysylltydd yn eich cyfeirio at y lle gorau i gael cymorth. Efallai y byddwch yn gallu siarad â gweithiwr iechyd proffesiynol hyfforddedig dros y ffôn.

Mae’r gwasanaethau cenedlaethol eraill sy’n cynnig cymorth argyfwng 24 awr yn cynnwys Y Samariaid. Gallwch eu ffonio ar 116 123.

Yn lleol gall ARC (Cynorthwyo gydag Adfer yn y Gymuned) ddarparu cyfarwyddyd ymarferol, cefnogaeth a chymorth strwythuredig i unigolion sydd â materion iechyd meddwl ac sy’n byw yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Gallwch eu ffonio ar 01656 763176

Gwasanaethau i oedolion

Os ydych yn chwilio am gyngor, cyfarwyddyd neu eisiau cyrchu gwasanaethau i’ch helpu i fyw’n annibynnol yn eich cartref, neu os ydych yn poeni am rywun arall, gallwch gael help drwy’r gwasanaethau cymdeithasol – Gofal Cymdeithasol i Oedolion neu gallwch ffonio 01656 642279.

Yswiriant Cynnwys

Mae yswiriant cynnwys yn rhoi sicrwydd yswiriant am gynnwys eich cartref a’ch eitemau personol os ydych yn rhentu eiddo.

Mae hyn yn cwmpasu eitemau fel dodrefn, gemwaith, dillad a dyfeisiau os ydynt yn cael eu difrodi mewn digwyddiadau fel llifogydd a thanau.

Os ydych yn ystyried cael yswiriant cynnwys, gallwch fwrw golwg ar y polisïau gorau sydd ar gael a chymharu prisiau yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn ag yswiriant cynnwys, gallwch ffonio ein hyb ar 0300 123 2100 a bydd ein tîm cymorth yn eich helpu.

Beth i’w Wneud Pan Fydd Deiliad Contract yn Marw: Terfynu Contracta Dychwelyd Eiddo

Rydyn ni’n deall bod colli rhywun agos yn brofiad anodd ac emosiynol. Gall rheoli materion ymarferol yn ystod y cyfnod hwn deimlo’n llethol. I helpu i hwyluso’r broses o derfynu eu deiliadaeth gyda ni cymaint â phosibl, dyma beth fydd ei angen gennych:

Tystysgrif marwolaeth

I derfynu contract yn ffurfiol, bydd angen copi o’r dystysgrif marwolaeth arnom ar gyfer ein cofnodion.

Os ydych yn disgwyl y bydd oedi wrth dderbyn y ddogfen hon, gall y Crwner roi Tystysgrif Marwolaeth Dros Dro i chi.

Rydym yn hapus i dderbyn llun o ddwy ochr y dystysgrif trwy e-bost.

Taliadau rhent

Byddwn yn parhau i gasglu rhent ar ystad y deiliad contract nes bydd yr allweddi wedi cael eu dychwelyd atom, gan derfynu’r contract yn ffurfiol.

Pan fyddwch yn sicr bod yr eiddo yn wag ac yn lân, gallwch roi’r allweddi i ni.

Rhaid dychwelyd yr allweddi heb fod yn hwyrach na mis calendr ar ôl dyddiad y farwolaeth, ac ar yr adeg hon, byddwn yn rhoi’r gorau i gasglu rhent ac yn newid y cloeon.

Os oes angen estyniad, siaradwch â phartner tai cyn gynted ag y gallwch i drefnu hyn.

Dychwelyd yr allweddi

Gallwch ddod â’r allweddi i’n swyddfeydd yn Heol Tremains ym Mhen-y-bont ar Ogwr, neu eu gosod yn y coffor allweddi a ddarparwn yn y cyfeiriad. Os cysylltwch â ni pan fyddwch yn barod i ddychwelyd yr allweddi, gallwn roi rhif y coffor allweddi i chi.

Taliadau clirio a glanhau

I osgoi codi taliadau clirio a glanhau ar ystad y deiliad contract, rhaid dychwelyd yr eiddo i ni yn wag ac yn lân.

Sut gall y gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith eich helpu

Mae gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith y Llywodraeth yn caniatáu i chi roi gwybod am farwolaeth i’r rhan fwyaf o sefydliadau llywodraeth ar yr un pryd. Gallwch gyrchu’r gwasanaeth hwn ar-lein ar
https://www.gov.uk/after-a-death/organisations-you-need-to-contact-
and-tell-us-once
.

Noder y byddai’n rhaid i chi roi gwybod i ni ar wahân, gan nad ydym yn derbyn hysbysiadau gan y gwasanaeth hwn.

Rydyn ni yma i gynnig cymorth ac ateb eich cwestiynau. Os oes angen unrhyw help arnoch, ffoniwch ni ar 0300 123 2100.