Fis Rhagfyr diwethaf, buom yn cydweithio gyda’r sefydliad celfyddydau cymunedol lleol, Tanio Cymru, yn eu digwyddiad Nadolig blynyddol yn Bettws. Roedd hwn yn cynnwys cerddoriaeth offerynnol a lleisiol fyw, crefftau i’w gwneud a mynd â nhw adref, canu carolau, bwyd blasus a groto hardd gydag ymweliad gan Siôn Corn Cymraeg. 

Gyda chymorth un o’n datblygwyr, Hale Construction, ein nod oedd darparu  prynhawn difyr, o safon, yn llawn lawenydd yr Ŵyl i bobl fyddai’n cael anhawster i adael y pentref i ddathlu’r Nadolig.

“Mae Tanio Cymru yn sefydliad celfyddydau cymunedol dynamig sy’n darparu platfform lle gall preswylwyr gymryd rhan greadigol mewn materion lleol. Mae lles diwylliannol ein cymunedau yn rhan o Nodau Lles Cenedlaethau’r Dyfodol a bydd Cymoedd i’r Arfordir yn falch iawn o gefnogi Tanio Cymru gyda phrosiectau yn y dyfodol.”

Rachel Lovell, Partner Busnes Masnachol a Budd Cymunedol yng Nghymoedd i’r Arfordir.

Un o atyniadau mwyaf y digwyddiad oedd y gosodiad celf a grëwyd gan ddisgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6 Ysgol Gynradd Bettws. Mae’r darn pryfoclyd hwn ar amrywiaeth yn cefnogi ymrwymiadau Tanio Cymru i roi mynediad at amrediad o weithgareddau ac ymyriadau creadigol – a phob un yn canolbwyntio ar eu tri gwerth craidd: tanio cymuned, tanio creadigrwydd, a thanio newid.

Roedd yn bleser cael ymuno â Hale Developers unwaith eto i gefnogi digwyddiad arbennig a roddodd gyfle i breswylwyr lleol gymryd rhan, derbyn croeso cynnes a mwynhau gweithgareddau Nadoligaidd.  

“Yn J.G Hale Construction, rydym yn ymrwymedig iawn i ddarparu mentrau Budd Cymunedol a fydd yn dod â buddion ac effeithiau tymor hir uniongyrchol i‘r cymunedau lleol o gwmpas ein prosiectau. Roeddem yn falch iawn o gyfrannu arian i gefnogi prosiect Nadolig y celfyddydau Tanio Cymru.”

Hale Developers

Meddai Alicia Stark o Tanio Cymru: “Bydd y cyllid hael hwn i gefnogi ein digwyddiad yn ein helpu i dalu am nwyddau crefft, a hurio goleuadau ac offer eraill i wneud ein mannau awyr agored yn hygyrch ac yn ddiogel. Yn ystod Nadolig Tanio y llynedd, ymunodd 85 o westeion â ni, a chredwn y bydd mwy o bobl nag erioed yn dod i ddigwyddiad eleni. Diolch am eich cymorth a fydd yn cael effaith anferth ar y pethau y gallwn eu darparu ar gyfer plant a theuluoedd yn Bettws yn ystod gaeaf caled iawn!”