Rydym yn cynnig llety byw yn y gymuned i gwsmeriaid ag anghenion cymorth sydd dros 50 oed yn ein llety gwarchod a gofal ychwanegol pwrpasol.

Mae gan bob un o’n cynlluniau gyfleusterau cymunedol, gan gynnwys lolfa a gerddi preswylwyr, ac mae gan bob cynllun Bartner Byw yn y Gymuned sy’n ymweld. 

Cynllun gofal ychwanegol, Llys Ton

Mae ein cynllun gofal ychwanegol, Llys Ton, ym Mhen-y-bont, gyda golygfeydd dros Fae Rest a’r cefn gwlad amgylchynol. Mae ei fwyty yn gweini pryd o fwyd poeth bob dydd, ac mae yna lolfeydd i’r preswylwyr, llyfrgell, cyfleusterau golchi dillad, ystafell wely i westeion, ystafell IT, ynghyd â gerddi preifat taclus, lle rydym yn annog pawb sy’n byw yno i roi help llaw. Mae gweithgareddau cymdeithasol pleserus ar gael hefyd.

Sut gallaf wneud cais i fyw yn Llys Ton?

Gellir gwneud ceisiadau i fyw yng nghynllun gofal ychwanegol Llys Ton drwy eich gweithiwr cymdeithasol, neu drwy gysylltu â’r cynllun yn uniongyrchol ar 0300 123 2100 i gael ffurflen gais. Neu, gallwch lenwi’r ffurflen gais hon a’i hebostio atom yn lystonapplication@v2c.org.uk neu ei hanfon i Lys Ton drwy’r post.

Ein cynlluniau tai gwarchod

Mae gennym gynlluniau tai gwarchod eraill ledled bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yn Y Pîl, Porthcawl, Maesteg, Nant-y-moel, Tref Pen-y-bont ar Ogwr a Sarn. Mae pob yn yn cynnwys lolfeydd cymunedol, ceginau, a chyfleusterau golchi dillad hefyd. Mae’r cynlluniau i gyd mewn lleoliadau canolog wrth galon cymuned, felly p’un a yw’n well gennych gefn gwlad bryniog, neu fod ger y môr neu mewn tref, mae gennym gynllun a fydd yn eich siwtio.

Sut i wneud cais am ein cynlluniau tai gwarchod eraill (Link opens in new window)

Bydd angen i chi ymuno â Chofrestr Tai Cyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i wneud cais i fyw yn unrhyw un o’n cynlluniau. Crëwch gyfrif a llenwch eu ffurflen ar-lein. Unwaith y byddwch wedi llenwi ffurflen gais, byddwch yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am eich statws ac yn anfon yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Cwestiynau Cyffredin

Oes croeso i anifeiliaid anwes mewn llety â chymorth?

Yn gyffredinol, mae gan ein cynlluniau bolisi dim anifeiliaid anwes. Fodd bynnag, byddwn yn eithrio pan fydd hyn yn effeithio’n negyddol lles cwsmer, ac os yw’r llety’n addas. Er enghraifft, mae gan yr eiddo ddrws blaen ar wahân i atal yr anifail rhag symud drwy leoedd cymunedol.  

Bydd cyflwyno anifail anwes i gynllun yn digwydd drwy ymgynghori gyda chwsmeriaid eraill. Fodd bynnag, mae anifeiliaid anwes therapi yn aml yn ymweld â’n cynlluniau.