Gyda chymorth un o’n datblygwyr, Bluefield Land Ltd, rydym wedi bod yn cefnogi’r gwelliannau i’r cae yng Nghlwb Rygbi Tondu fel y gall chwaraewyr lleol hyfforddi a chwarae drwy gydol tymor y Gaeaf. 

Roedd ein Partner Busnes Masnachol a Budd Cymunedol, Rachel Lovell, yn falch iawn o hwyluso’r budd cymunedol lleol hwn yng nghanol Tondu. Rydym wedi ehangu ein cefnogaeth i’n cartrefi newydd yn Nhondu drwy wella’r “cyfleuster hanfodol a phoblogaidd hwn sydd wrth galon y gymuned”. 

“Mae Clwb Rygbi Tondu yn rhan anferth o’r gymuned, o’r minis i’r chwaraewyr hŷn. Mae’n fraint i ni yn Bluefield Land Ltd gael cefnogi’r clwb drwy helpu gyda’r gwaith cynnal ar y caeau.” Paul Markey, Rheolwr Gyfarwyddwr Bluefield Land

Rydym yn falch iawn o glywed bod ein rhoddion wedi dod â newid cadarnhaol i bobl y gymuned. Meddai Graham Thomas, Cadeirydd Clwb Rygbi Tondu: “Alla i ddim pwysleisio digon pa mor ddiolchgar rydyn ni am y rhodd gan Bluefield Land Ltd. Mae ein caeau chwarae mewn cyflwr gwych y tymor hwn ac mae hyn yn caniatáu i ni hyfforddi a chwarae gemau yn gyson drwy gydol y gaeaf. O’r blaen, byddai wythnosau’n mynd heibio heb hyfforddi neu chwarae gemau oherwydd y draenio gwael a’r darnau noeth ar y cae. Yn nhermau beth mae’r cymorth hwn yn ei olygu i’n clwb – mae’n anferth!”