Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cartref sy’n ddiogel ac wedi’i gynnal a’i gadw’n dda, lle gallwch deimlo’n ddiogel ac yn hapus.
Fodd bynnag, mae angen eich help arnom i sicrhau eich bod chi, eich teulu a’ch ffrindiau yn ddiogel pan fyddwch yn eich cartref.
Beth fyddwn ni’n ei wneud mewn gwiriad cyflwr cartref?
Byddwn yn gwirio cyflwr y tu mewn yn ogystal â’r tu allan i’ch cartref, a allai gymryd hyd at 30 munud i’w gwblhau.
Mae’r eitemau y byddwn fel arfer yn eu profi a’u harolygu yn cynnwys:
- Toeau
- Waliau
- Ffenestri a drysau
- Ffensys
- Llwybrau
- Ceginau
- Ystafelloedd ymolchi
- Llofftydd
- Systemau gwresogi
- Gwifrau trydanol
- Inswleiddio
Sut allwch chi helpu?
Byddwn yn trefnu apwyntiad i gynnal y gwiriad cyflwr, felly byddwch ar gael ar y dyddiad a’r amser y cytunwyd arno, neu trefnwch fod oedolyn arall (dros 18 oed) yn rhoi mynediad i ni i’ch cartref.
Os nad ydych chi – neu oedolyn arall – yn gallu mynychu eich apwyntiad mwyach, trefnwch ad-drefnu am ddiwrnod ac amser pan fyddwch ar gael.
Gwnewch yn siŵr bod modd cyrraedd yr holl ystafelloedd yn eich cartref, y llofft a’r mannau awyr agored yn hawdd ar ddiwrnod eich arolygiad.
Beth sy’n digwydd os oes problem?
Os nodir unrhyw atgyweiriadau sy’n gysylltiedig â diogelwch yn ystod y gwiriad cyflwr, byddwn yn rhoi gwybod i’n hadran atgyweiriadau a fydd yn trefnu i’r gwaith atgyweirio gael ei wneud ar ddiwrnod ac amser sy’n gyfleus i chi.