Ein nod yw darparu cartrefi sy’n ddiogel, yn gynnes, yn fforddiadwy ac sy’n cael eu cynnal yn dda. Cartrefi y mae ein cwsmeriaid yn falch o fyw ynddynt, ac sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Rydym wedi ymrwymo i:

  • Fod yn garbon niwtral erbyn 2030, a sicrhau effeithlonrwydd ynni ein cartrefi; 
  • Buddsoddi yn ein cartrefi i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal i safon uchel ac yn addas at y diben; a 
  • Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i ddatblygu tai newydd i helpu’r argyfwng tai cenedlaethol.

Oes gennych chi ddiddordeb yn un o’n tai?

Rydym yn gallu dyrannu 25% o’n heiddo ein hunain. Caiff yr eiddo hyn eu hysbysebu ar wefan tai fforddiadwy o’r enw Homehunt.

Bydd angen i chi gofrestru eich manylion ar-lein, rhoi gwybod i ni am eich anghenion tai, eich teulu, a pha fath o gartref rydych chi’n chwilio amdano.

Bydd yr hysbysebion ar gyfer pob eiddo yn dangos ichi faint o bobl sydd wedi dangos diddordeb yn y cartref. Yna, byddwn yn adnabod y bobl sydd fwyaf addas ar gyfer y cartref hwnnw, ac yn cynnig y cartref iddynt.

Pan fyddwn yn hysbysebu cartref sy’n addas i’ch gwybodaeth, byddwch yn derbyn hysbysiad yn gofyn a oes gennych ddiddordeb yn y cartref hwn.

Cofrestru nawr (Link opens in new window)
Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol (Link opens in new window)

Mae 75% o’n dyraniadau tai yn dod o Gofrestr Tai Cyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

I fod yn gymwys a chael eich ychwanegu at y gofrestr hon, mae’n rhaid i chi fod ag ‘angen tai’. Darllenwch Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr i gael gwybod a fyddwch chi’n gymwys.

Y gofrestr dai (Link opens in new window)

Gallwch gael eich ychwanegu i Gofrestr Tai Cyffredin Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr drwy greu cyfrif ar-lein.

Os nad ydych yn gallu cael eich ychwanegu ar gyfer y Gofrestr Tai Cyffredin, bydd y Cyngor yn rhoi cyngor i chi ar yr opsiynau tai eraill. Gallwch hefyd ofyn iddynt adolygu eich penderfyniad.

Byw Cymunedol (Link opens in new window)

Rydym yn cynnig llety byw cymunedol i gwsmeriaid o leiaf 50 oed gydaf anghenion cymorth. Mae ein llety â chymorth a gofal ychwanegol pwrpasol yn darparu tai ym Maesteg, Pîl, Porthcawl, Nantymoel a Phen-y-bont ar Ogwr.

Digartrefedd (Link opens in new window)

Os ydych mewn perygl o ddod yn ddigartref, neu eisoes yn ddigartref, rhowch wybod i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am eich sefyllfa. Gorau po gyntaf y byddwch chi’n rhoi gwybod, oherwydd gallwch chi gael cymorth yn gynt.

Cwestiynau Cyffredin

Oes croeso i anifeiliaid anwes mewn llety â chymorth?

Yn gyffredinol, mae gan ein cynlluniau bolisi dim anifeiliaid anwes. Fodd bynnag, byddwn yn eithrio pan fydd hyn yn effeithio’n negyddol lles cwsmer, ac os yw’r llety’n addas. Er enghraifft, mae gan yr eiddo ddrws blaen ar wahân i atal yr anifail rhag symud drwy leoedd cymunedol.  

Bydd cyflwyno anifail anwes i gynllun yn digwydd drwy ymgynghori gyda chwsmeriaid eraill. Fodd bynnag, mae anifeiliaid anwes therapi yn aml yn ymweld â’n cynlluniau.

Oes modd i mi drosglwyddo i gynllun Cymoedd i’r Arfordir arall? 

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu trosglwyddo i un o’n cartrefi os bydd y Ddeddf Diwygio Lles yn effeithio arnoch chi, mae eich cartref yn rhy fawr neu’n rhy fach ar gyfer eich teulu. 

Wrth drafod trosglwyddiad gyda chi, byddwn yn ystyried pethau fel y ydych chi wedi talu’r holl gostau rhent a gwasanaeth cyfredol, ac a oes unrhyw addasiadau heb awdurdod wedi cael eu cyflawni ar y tŷ.  

Cysylltwch â ni drwy e-bostio neu ffoniwch ni am y sefyllfa, a byddwn yn rhoi gwybod i chi am eich camau nesaf.

Er ein bod ni’n ceisio sicrhau bod ein cartrefi’n bodloni anghenion cwsmeriaid newydd a phresennol, nid oes modd trosglwyddo bob amser. Cadwch hyn mewn cof os ydych chi’n disgwyl i faint eich teulu gynyddu.

Oes modd cyfnewid fy nghartref?

Os hoffech gyfnewid eich cartref gyda pherson arall sy’n byw mewn tŷ cymdeithasol, gallwch hysbysebu hyn drwy wefan o’r enw HomeSwapper. Waeth os hoffech aros ym Mhen-y-bont ar Ogwr ai peidio, byddwch yn cael gwybod pan fydd cartref addas i chi yn cael ei ganfod. 

Rhagor o wybodaeth a chofrestru ar Homeswapper yma.