Mae ein cystadleuaeth arddio nôl eleni eto! Y Gwanwyn a’r Haf hwn, rydyn ni’n partneru unwaith eto ag ASW Property Services i gydnabod a gwobrwyo ymdrechion garddio anhygoel ein cwsmeriaid ym Mhen-y-bont ar Ogwr. 

Rydyn ni eisiau dathlu’r effaith cadarnhaol mae gerddi hardd, mannau cyhoeddus, a gwyrddlesni yn ei gael ar ein cymunedau.

Gallwch roi cynnig ar y gystadleuaeth gydag unrhyw brosiect gwyrdd rydych wedi bod yn gweithio arno ‒ bocsys ffenestri, basgedi crog, planhigion tu mewn, mannau bach, gerddi bwytadwy, rhandiroedd, neu unrhyw arddangosfa sy’n goleuo eich cornel bach, eich gardd, neu eich cymuned chi. Felly peidiwch â bod yn swil, dangoswch beth sydd gennych a chael cyfle i ennill un o’n gwobrau anhygoel!

P’un ai eich bod yn arddwr profiadol neu’n newydd iddi ac yn rhoi cynnig am y tro cyntaf, rydyn ni’n annog pawb i gymryd rhan. 

Bydd y gystadleuaeth ar agor tan 10 Gorffennaf ‒ cofiwch ddilyn ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #TyfuamAur i gael y newyddion diweddaraf.

I roi cynnig ar y gystadleuaeth, llenwch y ffurflen ar waelod y dudalen hon. Cofiwch lanlwytho lluniau sy’n dangos eich gardd ‒ rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld eich cynigion a choroni enillwyr cystadleuaeth arddio eleni!