Helpwch ni i ateb ein Cwestiwn y Mis newydd!

Published on: In the categories:Cyffredinol, Cymunedau

Rhan o’n gwaith ni yma yn Cymoedd i’r Arfordir yw gwrando arnoch chi a gweithredu ar yr wybodaeth byddwch chi’n ei rhoi i ni. Yn 2024, rydyn ni am ganolbwyntio ar hyn drwy gynnig rhagor o gyfleoedd i chi ymgysylltu â ni a chymryd rhan.   I ddechrau arni, rydyn ni’n lansio ein ‘Cwestiwn y Mis’ […]

Digwyddiadau Nos Galan Gaeaf AM DDIM

Published on: In the categories:Cyffredinol, Cymunedau

Yr Hydref hwn, mae Cymoedd i’r Arfordir yn falch o gyflwyno tri digwyddiad Nos Galan Gaeaf bwganllyd ar ôl ysgol sy’n addo amser ysbrydoledig o dda i deuluoedd ar draws y gymuned. Ymunwch â ni am amser arswydus o dda yn y ddau ddigwyddiad cyffrous hyn, a gynhelir rhwng 3pm a 5pm: 🗓️ Dydd Mawrth, […]

Dathlu llwyddiant yn y gwobrau #TyfuAmAur

Published on: In the categories:Cyffredinol, Cymunedau, Cynaliadwyedd

I ddathlu’r effaith cadarnhaol mae gerddi hardd, mannau cyhoeddus, a gwyrddni yn ei gael ar ein cymunedau, diweddodd ein chwiliad am y gerddi a’r mannau gwyrdd gorau ym Mhen-y-bont ar Ogwr eleni yn ein seremoni wobrwyo ddiweddar. Daeth ein hymgeiswyr at ei gilydd yng Nghanolfan Gymunedol Bryncethin ar gyfer y Gwobrau #TyfuAmAur lle buom yn […]

Cymoedd i’r Arfordir yn cefnogi gwelliannau i’r cae yng Nghlwb Rygbi Tondu

Published on: In the categories:Cymunedau

Gyda chymorth un o’n datblygwyr, Bluefield Land Ltd, rydym wedi bod yn cefnogi’r gwelliannau i’r cae yng Nghlwb Rygbi Tondu fel y gall chwaraewyr lleol hyfforddi a chwarae drwy gydol tymor y Gaeaf.  Roedd ein Partner Busnes Masnachol a Budd Cymunedol, Rachel Lovell, yn falch iawn o hwyluso’r budd cymunedol lleol hwn yng nghanol Tondu. […]

Buddiannau Nadoligaidd i’r Gymuned gyda Tanio Cymru

Published on: In the categories:Cymunedau

Fis Rhagfyr diwethaf, buom yn cydweithio gyda’r sefydliad celfyddydau cymunedol lleol, Tanio Cymru, yn eu digwyddiad Nadolig blynyddol yn Bettws. Roedd hwn yn cynnwys cerddoriaeth offerynnol a lleisiol fyw, crefftau i’w gwneud a mynd â nhw adref, canu carolau, bwyd blasus a groto hardd gydag ymweliad gan Siôn Corn Cymraeg.  Gyda chymorth un o’n datblygwyr, […]

Cynllun Plannu Coed Llwyddiannus Ar Draws Pen-y-bont ar Ogwr

Published on: In the categories:Cyffredinol, Cymunedau

Yn ôl ym mis Hydref, trafodom ein cynlluniau i harddu Sir Pen-y-bont ar Ogwr trwy blannu 300 o goed a roddwyd gan Goed Cadw.  Rydym wedi bod wrthi’n brysur yng Nghaerau, Maesteg, Gogledd Corneli a Phencoed dros yr wythnosau diwethaf, gyda chymorth rhai ohonoch yn y gymuned, yn cynnwys disgyblion o Ysgolion Cynradd Garth, Corneli […]

Helpu chi i gadw eich cartref yn ddiogel ac yn gynnes

Published on: In the categories:Cyffredinol, Cymunedau

Rydym yn partneru â Chymru Gynnes i helpu i sicrhau bod cartrefi ein cwsmeriaid yn ddiogel ac yn gynnes y gaeaf hwn. Mae Cymru Gynnes, y cwmni buddiannau cymunedol cyntaf yng Nghymru, yn gweithio i leddfu tlodi tanwydd yng Nghymru a’r De Orllewin trwy brosiectau cymunedol a gweithio mewn partneriaeth. Rydym yn falch iawn o […]

Cymerwch ran yn ein cynllun i blannu 300 o goed ar draws Pen-y-bont ar Ogwr

Published on: In the categories:Cyffredinol, Cymunedau, Cynaliadwyedd

Yr hydref hwn, rydyn ni’n ymuno â Choed Cadw i harddu Pen-y-bont ar Ogwr drwy blannu 300 o goed ar draws y sir. Ein bwriad yw plannu coed yng Nghaerau, Maesteg, Gogledd Corneli a Phencoed ond cyn i ni ddechrau, rydyn ni eisiau clywed eich barn ynglŷn â’r lleoliadau. Dyma’ch cyfle chi i gymryd rhan! […]

trees

Eich Rhent Chi, Eich Barn Chi – Taith arolwg rhenti 

Published on: In the categories:Cyffredinol, Cymunedau

Mae’n amser i chi rannu eich barn eto ar y rhent rydych yn ei dalu – a chael cyfle i ennill talebau siop fwyd gwerth £50! Bob blwyddyn, rydyn ni’n gofyn i’n cwsmeriaid ddweud wrthon ni beth maen nhw’n meddwl am eu rhent, ac eleni yn arbennig, rydyn ni’n deall yn iawn sut mae costau […]

Y Datblygiad Newydd Wedi’i Orffen | Sant Ioan, Cefn Cribwr

Published on: In the categories:Cyffredinol, Cymunedau

Mae ein tîm yma yng Nghymoedd i’r Arfordir wrth ein bodd o gyhoeddi bod ein datblygiad tai diweddaraf yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i gwblhau. Yr haf hwn, agorodd datblygiad Sant Ioan yng Nghefn Cribwr ei ddrysau i denantiaid, gyda 10 cartref newydd i’n tenantiaid yn yr ardal leol.  Ar ddydd Llun 13 Mehefin 2022, […]