Partneriaid Cyfrif (Link opens in new window)

Mae ein Partneriaid Cyfrif yn barod ac ar gael i roi cymorth cyfrinachol a rhad ac am ddim i chi os ydych yn cael trafferth talu eich rhent.

Gwybodaeth am eich tenantiaeth 

Mae cytundeb tenantiaeth yn gontract cyfreithiol rhyngoch chi a ni, ynghylch rhentu eich cartref. Pan fyddwch chi’n llofnodi cytundeb tenantiaeth gyda ni, rydych yn cytuno i amodau’r denantiaeth. Felly mae’n bwysig eich bod chi’n gwybod ac yn deall yr hyn rydych chi’n cytuno arno. 

Os bydd amod tenantiaeth yn cael ei dorri, mae’n bosibl y bydd gennym sail i ddirwyn y denantiaeth i ben. Neu efallai y byddwn yn gwneud cais i’r llys i geisio gwaharddeb, lle gall y llys orfodi’r tenant i lynu at amodau’r denantiaeth.  

Mae gennym gyfrifoldebau i gyflawni ein hymrwymiadau yn amodau’r denantiaeth hefyd. Mae’r mwyafrif o’r rhain yn gyfrifoldebau o ran cadw eich cartref mewn cyflwr rhesymol.  

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys talu eich rhent, edrych ar ôl eich cartref a’ch gardd ac ymddwyn mewn ffordd resymol nad yw’n peri pryder i’r rhai sy’n byw yn agos atoch chi.  

Os yw eich tenantiaeth yn denantiaeth ar y cyd, gallwn orfodi’r amodau tenantiaeth yn erbyn pob tenant gyda’i gilydd neu fel unigolion. Mae’r cyfrifoldebau ar y naill ochr a’r llall yn rhwymedig yn gyfreithiol.  

Mae eich amodau tenantiaeth yn rhan o’r cytundeb cyfreithiol yr ydych chi’n mynd i mewn iddo gyda ni pan fyddwch chi’n derbyn eich tenantiaeth. Darllenwch nhw er mwyn deall eich hawliau a’ch cyfrifoldebau, a chadwch nhw yn rhywle diogel. 

Sut i ddirwyn i ben eich tenantiaeth

Mae’n rhaid ichi roi o leiaf 28 diwrnod o rybudd yn ysgrifenedig, wedi’i lofnodi gennych chi, pan fyddwch chi eisiau dirwyn y denantiaeth i ben. Os ydych chi’n denantiaid ar y cyd, gall y naill neu’r llall ddirwyn i ben y denantiaeth drwy roi rhybudd ysgrifenedig a fydd yn rhwymedig i’r ddau ohonoch. 

Rhaid i ddiwrnod olaf eich tenantiaeth fod yn ddydd Sul, ac mae’n rhaid i chi ddychwelyd eich allweddi cyn hanner dydd ar y dydd Llun wedyn. Os na fyddwch yn gwneud hyn, bydd angen i chi dalu rhent ychwanegol. 

Mae’n rhaid ichi adael i ni feddiannu’r cartref ar ddiwedd y denantiaeth, ac mae’n rhaid i’r eiddo fod yn lân, yn rhydd rhag eich holl ddodrefn ac eiddo, ac mewn cyflwr da. Os na fyddwch yn gwneud hyn, mae’n bosibl y byddwn yn codi tâl arnoch am yr hyn a ganlyn.  

  • Pris clirio eich cartref a’ch gardd.
  • Glanhau’r cartref.
  • Trwsio unrhyw niwed neu esgeulustod.
  • Disodli unrhyw osodiadau neu ffitiadau yr ydych wedi’u gwaredu ond heb eu disodli gydag opsiynau amgen o safon resymol a thebyg. 
  • Newid y cloeon.

Rhaid ichi hefyd roi gwybod i ni am eich cyfeiriad newydd.

Unrhyw newidiadau i’ch aelwyd? (Link opens in new window)

Helpwch ni i gael y diweddaraf ar unrhyw newidadau i’ch aelwyd, fel bod modd inni roi cymorth pellach.

Arolwg cartref cyfan (Link opens in new window)

Yn unol â rhaglen newydd Llywodraeth Cymru, rydym yn newid ein ffordd o arolygu eich cartref, gan gynnal arolygon cynhwysfawr sydd â’r nod o wella cyflwr ac effeithlonrwydd ynni ein meddiannau.

Frequently asked questions

Are pets allowed in Community Living accommodation?

The schemes have a general no pet policy. We have made exceptions where this has proven fundamental to someone’s wellbeing and the accommodation is suitable, for example, the property has a separate front door to avoid the pet moving through communal spaces. 

The introduction of a pet to a scheme is always done in consultation with the tenants. Where we have a split in whether tenants would like pets or not in the building we have therapy pets that come by the schemes.

 

Can I transfer to another Valleys to Coast home?

You can transfer to another home of ours if you are being affected by the Welfare Reform Act or your home is too big or too small for your household.

Things we consider when discussing a transfer with you include you being up to date with any rent or service charges you may have, no unauthorised alterations to your home and no evidence of nuisance caused at your current home.

Get in touch with us about your circumstances and we will advise you on your next steps.

To ensure our properties meet the needs of both new and existing customers it is not always achievable to carry out a transfer so please bear this in mind if you expect your household size to increase.

Can I swap my home?

If you want to swap homes with another person living in a social housing home then you can advertise this through a website called HomeSwapper. They might live in another part of Bridgend or in another local authority area. Once a match is made you will be notified.

Find out more and register on Homeswapper