A ydych chi eisiau bod yn rhan o’n tîm cyfeillgar?
Os dewch chi â’ch calon, eich sgiliau, profiad, egni a brwdfrydedd i Cymoedd i’r Arfordir, dyma beth a gewch yn gyfnewid…
Ymunwch â thîm gwych o gydweithwyr cyfeillgar gydag amrywiaeth o swyddi a phrofiadau, o swyddi sy’n wynebu cwsmeriaid fel ein partneriaid crefftau a thai, i swyddi ategol gan gynnwys cyllid, gweinyddiaeth a chyfathrebu.
Mae ein prif swyddfa yn Nhremaen yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae ein depo prysur ym Mrynmenyn. Mae gennym hefyd gynlluniau gofal ychwanegol a llety gwarchod yn y gymuned ar draws y fwrdeistref.
Pan ddewch chi i’r gwaith gallwch ddisgwyl bwrw ati i weithio a chael hwyl! Mae gennym ni amgylchedd bywiog gyda digon o le i ddal i fyny â chydweithwyr dros baned neu ystafelloedd cyfarfod lle gallwch chi gysylltu â phobl ar-lein trwy sgriniau digidol mawr neu gael sesiwn wyneb yn wyneb wych. Mae gennym ni hefyd grwpiau sgwrsio ar-lein traws-sefydliadol fel y gallwch chi gadw mewn cysylltiad â chydweithwyr ble bynnag rydych chi’n gweithio.
Yn bennaf oll, fe wnawn ni eich cefnogi. Oherwydd ein bod i gyd yn ddynol ac weithiau angen ychydig o gefnogaeth, mae ein partneriaid Pobl profiadol bob amser wrth law i helpu.
Rydym yn deall bod hyblygrwydd yn bwysig i’n cydweithwyr ac er y bydd darparu gwasanaeth effeithiol bob amser yn dod yn gyntaf, byddwn yn eich galluogi i fanteisio ar weithio hybrid, gan ganiatáu i chi weithio yn ein prif swyddfeydd neu leoliadau hwb, gartref neu unrhyw le arall a fydd yn caniatáu i chi wneud eich gwaith yn briodol.
Weithiau bydd hynny’n gofyn i chi fod yn bresennol yn ein swyddfa, depo neu leoliadau cymunedol lle gallwn ddod at ein gilydd a chydweithio, a gyda hynny mewn golwg byddem yn disgwyl eich gweld yn bersonol o leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos.
Byddwn yn darparu pecyn TG i chi y gallwch ei ddefnyddio wrth symud, ac yn ymddiried ynoch chi i wneud y dewisiadau cywir yn seiliedig ar ein hanghenion busnes.
Ein horiau gweithredu yw 8am i 6pm, a gofynnwn i chi weithio eich oriau craidd a bod ar gael i gefnogi ein cwsmeriaid a’ch cydweithwyr o fewn yr amseroedd hyn.
Rydym yn gwerthfawrogi eich bod yn dod â’ch sgiliau i Cymoedd i Arfordir, a byddwn yn eich helpu i barhau i ddysgu a thyfu yn ystod eich amser gyda ni. Byddwn yn eich cysylltu â chydweithwyr i’ch mentora a’ch cefnogi, byddwn yn rhoi’r cyfle i chi gysgodi eraill fel y gallwch ddysgu am swyddi ar draws y sefydliad, a byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i gyrsiau hyfforddi perthnasol i gefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus. Byddwn hefyd yn talu am aelodaeth broffesiynol berthnasol os ydych ei hangen i wneud eich gwaith. Yn bennaf oll, os oes gennym gyfleoedd mewn swyddi uwch a bod eich sgiliau, eich brwdfrydedd a’ch profiad yn eich gwneud yn ymgeisydd perffaith, byddwn yn falch o’ch cefnogi i gamu i fyny a datblygu eich gyrfa gyda ni.
Rydym yn dathlu amrywiaeth yn ein gweithle ac yn cydnabod ein bod bob un yn unigryw, ac rydym yn annog cydweithwyr i allu dod â nhw eu hunain i’r gwaith.
Mae gennym gynllun pedair blynedd i annog cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym yn annog adborth gan gydweithwyr i’n helpu i gyflawni’r nodau yn ein cynllun.
Dyma’r mentrau sydd yn eu lle gennym yn barod:
- Ymgyrch Gweithredoedd nid Geiriau
- Addewid Rhuban Gwyn
- Rheolau Rooney ar gyfer rolau arweinyddiaeth
- Digwyddiadau yn y Gymraeg
- Caffi Menopos
Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw cymryd egwyl o’ch gwaith i orffwys ac ail-sbarduno. Yn Cymoedd i’r Arfordir byddwch yn cael o leiaf 25 diwrnod o wyliau blynyddol bob blwyddyn gyda diwrnod ychwanegol am bob blwyddyn y byddwch gyda ni hyd at uchafswm o 30 diwrnod, ynghyd â gwyliau banc (pro rata). Byddwch hefyd yn cael y cyfle i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol unwaith y byddwch wedi cwblhau eich cyfnod prawf fel rhan o gynllun aberthu cyflog.
Rydym yn un teulu mawr yn Cymoedd i’r Arfordir ac rydym eisiau gofalu amdanoch chi a’ch teulu hefyd. Dyna pam y byddwch yn elwa’n awtomatig o gynllun arian gofal iechyd i’ch helpu i dalu am filiau iechyd hanfodol, yn ogystal â rhoi mynediad 24 awr i chi at gyngor meddyg teulu, cwnsela a mwy.
Rydym yn cydnabod ei bod yn bwysig cynilo arian ar gyfer eich ymddeoliad, a dyna pam rydym yn cynnig cyfraniad misol hael i’r Cynllun Pensiwn Tai Cymdeithasol, y byddwch yn cael mynediad awtomatig ato’n fuan ar ôl i chi ymuno â ni. Byddwn yn cyfrannu 2% yn fwy na chi bob mis a gallwch ddewis faint rydych eisiau ei dalu i mewn – er enghraifft:
Byddwch chi’n talu | Byddwn ni’n talu |
4% | 6% |
5% | 7% |
6% | 8% (uchafswm) |
Pan fyddwch yn cadw at ein gwerthoedd, byddwn yn sicrhau eich bod yn cael cydnabyddiaeth. Yn ogystal â digwyddiadau blynyddol i gydnabod cydweithwyr, byddwn yn dathlu eich llwyddiannau ac yn llongyfarch eich dyfalbarhad – oherwydd rydym yn gwybod fod diolch yn mynd yn bell. Efallai y byddwch hyd yn oed yn cael eich cynnwys ar ein Wal Wych, man ar-lein arbennig lle mae cydweithwyr yn cysylltu i dynnu sylw at gyflawniadau a dathliadau personol ei gilydd. Yma byddwch hefyd yn cael mynediad at filoedd o ostyngiadau manwerthu i’ch helpu i arbed arian ar hanfodion a moethau bob dydd, adnoddau iechyd a lles am ddim, blogiau’r cwmni a llawer mwy.
Fel sefydliad sydd wrth galon Pen-y-bont ar Ogwr, rydym eisiau i’n presenoldeb gael ei deimlo am y rhesymau iawn. Felly, bob blwyddyn byddwn yn rhoi diwrnod â thâl i chi ei dreulio’n gwirfoddoli yn y gymuned at achos sy’n agos at eich calon. Gallai hwn fod yn un diwrnod, neu gallwch ei gymryd fesul awr a’i ledaenu dros y flwyddyn.
Rydym hefyd yn codi arian ar gyfer ein Helusen y Flwyddyn, y pleidleisir drosto’n flynyddol gan ein cydweithwyr – cyfle i gael hwyl gyda’n gilydd wrth gyfrannu at achos lleol teilwng.
Rydym yn griw cyfeillgar ac os ydych chi’n barod amdani gallwch chi ymuno â’n clwb chwaraeon a chymdeithasol i fanteisio ar ddigwyddiadau cymdeithasol ar ôl gwaith ac ar benwythnosau! Mae yna bob math o bethau’n digwydd, yn cynnwys teithiau siopa a gweithgareddau chwaraeon os ydych ffansi, neu gallwch ymuno â’n raffl diwrnod cyflog am gyfle i ennill gwobr ariannol i ychwanegu at eich pecyn cyflog!
- Te a choffi am ddim a chwpwrdd pantri y gallwch fanteisio arno pan rydych yn teimlo’n llwglyd neu wedi anghofio eich cinio
- Parcio am ddim ar y safle a pharcio â chymhorthdal yng nghanol y dref pan fyddwch yn dod i mewn i’r gwaith
- Gwisg y cwmni os oes ei angen ar gyfer eich swydd
- Mynediad am ddim i wyth canolfan hamdden Halo am y chwe wythnos gyntaf a thocyn saith diwrnod ar gyfer aelodaeth ’Cadw’n Heini gyda’n Gilydd’
- Dim ffi gofrestru a gostyngiad ar gyfleusterau meithrinfa Coleg Penybont
- Cynllun beicio i’r gwaith, sy’n eich galluogi i elwa ar feic a/neu ategolion di-dreth, hyd at £1,000 i’ch helpu i deithio i’r gwaith
- Tâl mamolaeth a thadolaeth uwch ar ôl i chi fod yn gweithio gyda ni am flwyddyn
- Digon o gyfleoedd i gymryd rhan mewn mentrau allweddol, gan gynnwys cynaliadwyedd a datgarboneiddio; cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI); a datblygiad yr iaith Gymraeg