Efallai eich bod yn cofio ein bod wedi gofyn i chi gwblhau arolwg yn ddiweddar, gan ofyn i chi pa mor fodlon yr oeddech chi’n teimlo am y gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu.

Arolwg STAR oedd hwn, sy’n cael ei gynnal bob blwyddyn gan bob landlord cymdeithasol cofrestredig er mwyn deall teimladau cwsmeriaid yn well. Mae hefyd yn gyfle i weld sut mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn perfformio o’i gymharu â’i gilydd.

Gwnaeth bron i 1,300 ohonoch chi ymateb i’n harolwg STAR, pan wnaethon ni ofyn i chi ystyried y 12 mis blaenorol, o 2021-22. Roedden ni’n falch iawn o weld bod bodlonrwydd wedi cynyddu ar y cyfan, ond mae rhai meysydd o’n gwasanaeth mae angen i ni edrych arnynt yn fanylach i wella eich bodlonrwydd wrth symud ymlaen.

O’i gymharu â’n canlyniadau yn 2021 fe ddywedoch chi wrthym eich bod yn fwy bodlon am bethau fel:

  • Eich cymdogaeth fel lle i fyw;
  • Bod eich rhent a thaliadau gwasanaeth yn sicrhau gwerth am arian;
  • Bod eich cartref yn teimlo’n ddiogel; 
  • A’ch bod chi’n cael cyfle i gymryd rhan yn ein penderfyniadau.

Fodd bynnag, rydych chi bellach yn llai bodlon ynghylch:

  • Y gwasanaethau yr ydyn ni’n eu darparu; 
  • Ansawdd eich cartref; 
  • Sut rydyn ni’n delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol; 
  • A sut rydyn ni’n gwrando ar eich barn ac yn gweithredu arni.

Ein pryder mwyaf oedd gweld cwymp yn faint ohonoch chi oedd yn teimlo eich bod yn ymddiried yng nghymdeithas Cymoedd i’r Arfordir. Mae hyn yn rhywbeth rydyn ni’n awyddus i’w ddeall, ac felly pan fydd gennym gyfle i siarad â chi nesaf, byddwn yn gofyn am eich adborth.

Byddwn hefyd yn anelu at wella eich boddhad trwy…

  • Buddsoddi’n sylweddol yn ansawdd eich cartrefi, ac adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd
  • Lansio is-gwmni sy’n eiddo llwyr – cwmni sy’n eiddo 100% i Valleys to Coast i wella a thyfu ein gwasanaethau atgyweirio a chynnal a chadw
  • Lansio system TG newydd i reoli ceisiadau atgyweirio yn well
  • Buddsoddi yn ein mannau cymunedol mewnol, yn ogystal â mannau allanol
  • Eich gwneud yn fwy ymwybodol o sut rydym yn cefnogi cymunedau y mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio arnynt
  • Cadw llygad ar fforddiadwyedd ein rhent a thaliadau gwasanaeth
  • Parhau i gefnogi cwsmeriaid sy’n cael trafferth gyda chostau byw
  • Adolygu sut rydym yn ymgysylltu â chi i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed ar draws ein busnes
  • Gwneud yn well wrth roi gwybod i chi sut mae eich llais wedi creu newid

Isod rhestrir canlyniadau llawn arolwg STAR, ynghyd â chanlyniadau 2021 er mwyn eu cymharu.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Joanne Oak: “Rydyn ni’n ddiolchgar bod cynifer ohonoch chi wedi neilltuo amser i ymateb i’r arolwg er mwyn rhannu eich meddyliau a’ch teimladau. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu cartrefi a chymunedau lle rydych chi’n teimlo’n ddiogel ac yn hapus, a thra roeddem yn falch o weld eich bod yn fodlon â llawer o’r gwasanaethau a ddarparwn, roedd yn siomedig gweld bod dim cymaint o fodlonrwydd mewn rhai meysydd. Mae’n bwysig ein bod yn ceisio deall yr hyn sydd angen i ni ei wneud i wella pethau.”

Ychwanegodd: ” Erbyn y byddwn ni’n cynnal yr arolwg STAR nesaf, rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n dechrau gweld llawer o’r gwelliannau yr ydyn ni wedi bod yn gweithio mor galed i’w gwireddu. Rydyn ni wedi gwneud cynnydd mawr i leihau’r gwaith trwsio oedd yn cronni yn sgil pandemig drwy ein rhaglen Turnaround.

“Eleni rydyn ni hefyd yn gwneud y buddsoddiad unigol mwyaf yn ein cartrefi ers i gymdeithas Cymoedd i’r Arfordir gael ei sefydlu yn 2003. Byddwn yn gwario £31.5miliwn ar wella’ch cartrefi, yn canolbwyntio ar eu gwneud yn gynhesach ac yn rhatach i’w cynnal, gan addasu cartrefi i gyd-fynd yn well â’ch anghenion a darparu gwell gwasanaeth cynnal a chadw a thrwsio. Byddwn hefyd yn adfywio tai gwag ac yn adeiladu mwy o dai fforddiadwy er mwyn helpu i ddiwallu anghenion pobl leol ym Mhen-y-bont.

“Rydyn ni hefyd yn canolbwyntio mwy o’n hymdrechion ar eich helpu i fyw’n ddiogel ac yn hapus, cynyddu’r cymorth sydd ar gael i chi i arbed arian ar gostau bob dydd a chadw mwy o arian yn eich poced – sydd oll yn rhan o nifer o fesurau rydyn ni’n eu cymryd i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw.

“Fel bob amser, rydyn ni’n ddiolchgar am eich adborth. Beth sy’n bwysig i mi yw nad ydych chi’n aros am arolwg i roi gwybod i ni sut rydych chi’n teimlo – rydyn ni yma i wrando ar unrhyw adeg.”

  • Os oes yna fater yr hoffech siarad â ni amdano – boed yn rhywbeth rydych chi’n hapus neu’n anhapus ag ef – cysylltwch â ni ar 0300 123 2100 neu e-bostiwch TheHub@V2C.org.uk