Rydym yn partneru â Chymru Gynnes i helpu i sicrhau bod cartrefi ein cwsmeriaid yn ddiogel ac yn gynnes y gaeaf hwn.

Mae Cymru Gynnes, y cwmni buddiannau cymunedol cyntaf yng Nghymru, yn gweithio i leddfu tlodi tanwydd yng Nghymru a’r De Orllewin trwy brosiectau cymunedol a gweithio mewn partneriaeth.

Rydym yn falch iawn o gadarnhau bod gweithiwr cymorth penodedig wedi’i neilltuo i ni am y chwe mis nesaf, a’i rôl fydd gweithio gyda chwsmeriaid i ddarparu cyngor, cymorth a chyfarwyddyd ar ynni a chynhesrwydd fforddiadwy. 

Mae’r meysydd cymorth a ddarperir gan Gymru Gynnes yn cynnwys:

  • Diogelwch yn y Cartref: Gwybodaeth a chyngor ynglŷn â charbon monocsid, oerfel gormodol, lleithder a llwydni, a chymorth i gyrchu cynlluniau sy’n cynnig addasiadau yn y cartref. 
  • Gwneud y Gorau o Arian: Lleihau biliau ynni a dŵr, cymorth gyda dyled a chymorth gyda thai, ynghyd â mynediad at wiriadau budd-daliadau llawn i wneud yn siŵr eich bod yn hawlio popeth rydych yn gymwys i’w dderbyn. 
  • Cyngor Ynni a Chynhesrwydd Fforddiadwy: Cymorth gyda cheisiadau ar gyfer cynlluniau a ariennir gan grant, darparu boeleri newydd, systemau gwres canolog ac inswleiddiad i gartrefi cymwys; gwybodaeth a chyngor ynglŷn â mesuryddion deallus a deall biliau; cymorth i gyrchu cynlluniau disgownt yn cynnwys y Disgownt Cartrefi Cynnes.

Cewch fwy o wybodaeth am sut gall Cymru Gynnes eich helpu yma.Mae ein tîm Materion Ariannol yn cynnig cyngor cyfrinachol, am ddim i’n cwsmeriaid. Os ydych chi’n cael anhawster i dalu eich biliau, cysylltwch â ni. Cysylltwch â’r tîm Materion Ariannol yma.