Rydym yn falch i gyhoeddi ein bod wedi ennill gwobr genedlaethol o fri am arloesedd.

Enillodd ein datblygiad Ffordd Yr Eglwys y categori ‘creu arloesedd’ yn y gwobrau Ystadau Cymru diweddar gan Lywodraeth Cymru.

Y datblygiad pedwar cartref hwn yng Ngogledd Corneli oedd y cyntaf i gael ei adeiladu gan ddatblygwr tai cymdeithasol yn defnyddio dull adeiladu modiwlaidd, lle cafodd y paneli adeiladu wedi’u hinswleiddio eu cynhyrchu oddi ar y safle.

Mae’r rhain yn arloesol nid yn unig o ran eu lluniad, ond o ran eu dyluniad hefyd – maent yn darparu cartrefi un ystafell wely yn arddull tŷ deulawr traddodiadol.

Cafodd y cynllun ei gyflwyno fel rhan o’r Protocol Ailgartrefu Cyflym yn ystod y pandemig Covid pan gynyddodd yr angen am dai fforddiadwy o ansawdd da i bobl oedd yn symud ymlaen o lety dros dro.

Darparwyd y cartrefi mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyda grant digartrefedd Llywodraeth Cymru, ac fe gyflawnwyd y broses gyfan, o’r caniatâd cynllunio i fod yn barod i’w trosglwyddo, o fewn 12 fis.

Y cwmni o Gaerdydd, Pentan Architects, oedd y dylunwyr a darparwyd y cydrannau modiwlaidd gan gwmni First Start Homes ym Mhontyclun.

Hwn yw’r datblygiad tai cymdeithasol cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac mae’n darparu prototeip i ddatblygwyr tai cymdeithasol eraill yn y gobaith y gellir copïo’r cynllun yn gyflym mewn ardaloedd eraill.

Mae’r Gwobrau Ystadau Cymru blynyddol gan Lywodraeth Cymru yn dathlu cynlluniau rheoli asedau cydweithredol llwyddiannus ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Meddai Prif Weithredwr Cymoedd i’r Arfordir, Joanne Oak: “Rydym wrth ein bodd wrth ennill y wobr creu arloesedd ar gyfer ein datblygiad Ffordd Yr Eglwys. Rydym yn falch o arwain y ffordd yng Nghymru drwy ddatblygu tai cymdeithasol newydd o’r math hwn a gobeithiwn y byddwn yn gweld mwy o’r cartrefi modiwlaidd hyn yn cael eu hadeiladu i helpu i fynd i’r afael â’r anghenion tai lleol mewn ardaloedd eraill.

“Ond er mor falch rydyn ni o’r datblygiad hwn, ein prif flaenoriaeth oedd darparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd da i bobl leol oedd mor anffodus a’u cael eu hun yn ddigartref.

“Penderfynom fwrw ati’n gyflym iawn i ddatblygu Ffordd Yr Eglwys ar ôl cael sgyrsiau gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru pan oedd y pandemig yn ei anterth.

“Rwy’n ddiolchgar am y bartneriaeth hon, ond hefyd am y cyfle i gydweithio gyda chwmnïau Cymreig rhagorol i ddarparu atebion arloesol sy’n mynd i’r afael â’r angen lleol am dai.

“Hoffwn roi diolch i dîm Cymoedd i’r Arfordir am gyflawni’r datblygiad arobryn hwn ac arwain y ffordd o ran tai yng Nghymru yn y dyfodol.”

Mae Ffordd Yr Eglwys yn un o nifer o brosiectau datblygu tai sydd ar y gweill gan Gymoedd i’r Arfordir fel rhan o’i gynllun corfforaethol 10 mlynedd.

Mae deg fflat newydd yn Ffordd Maesteg a datblygiad o bedair fflat a chwech o dai yn Woodland Avenue newydd gael eu cwblhau. Bydd teuluoedd lleol yn treulio’u Nadolig cyntaf yn eu cartrefi newydd a gwblhawyd yng Nghefn Cribwr dros yr haf, a bydd y cam cyntaf yn natblygiad diweddaraf y gymdeithas yn Brocastle yn barod yn y flwyddyn newydd, gyda 56 o gartrefi ychwanegol wedi’u cynllunio erbyn diwedd 2023.