Nodyn atgoffa sydyn am ddiogelwch:Storio sgwteri symudol ac eitemaupersonol
Mae sgwteri symudol ac eitemau sy’n cael eu gadael mewn ardaloedd cymunedol yn creu risgiau diogelwch tân difrifol ac yn beryglon baglu. Gallant hyd yn oed ei gwneud yn anoddach i’r gwasanaeth tân ymateb i danau yn eich adeilad. Efallai eich bod wedi sylwi ein bod wedi dechrau gosod sticeri ar sgwteri symudol sy’n cael […]
Carreg filltir i ni: Rydym wedi ennill eingwobr efydd DAHA!
Y llynedd, cyhoeddom ein bod yn cychwyn ar ein taith i ennill achrediad drwy’rGynghrair Tai Cam-drin Domestig (DAHA). Rydym mor falch o gyhoeddi ein bod wedi ennill ein gwobr gyntaf yn swyddogol – y wobr efydd! Mae hyn yn gadarnhad ein bod yn gwneud ein gwasanaethau’n fwy diogel i gwsmeriaid a chyd-weithwyr. Pam mae hyn […]
Dathlu ein gwobr TPAS: o drawsnewidgerddi i bartïon gardd!
Rydym yn falch iawn o dderbyn cydnabyddiaeth genedlaethol yng Ngwobrau Arfer Da Cenedlaethol TPAS Cymru 2026. Enillodd ein menter drawsnewidiol – ‘Ein Gardd, Ein Dewis’, yr ail wobr yn y categori ‘Tenantiaid yn Dylanwadu ar Benderfyniadau’. Roedd yn braf cael dathlu’r garreg filltir hon gyda rhai o’n cwsmeriaid, Jennifer a Colin, a ymunodd â ni […]
Yn cyflwyno Countrywide, einhunig gontractwr cynnal a chadwtir
Mae eich adborth wedi llywio ein contract torri newydd a gwell! Ers blynyddoedd, mae sawl contractwr wedi bod yn torri ein gwair rhwng misoedd Ebrill a Hydref. Eleni, rydym yn mabwysiadu ymagwedd newydd sbon. Chithau a ddywedodd, ninnau a weithredodd I lunio’r contract, fe ofynnon ni i gwsmeriaid yn ein digwyddiadau #CaruEichStryd beth yn union […]
12 cartref o ansawdd uchel ar gyferPontycymer: Ymunwch â’n digwyddiad iglywed mwy!
Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau gweithio ar ein datblygiad ar safle’r Ffaldau Arms ar Stryd Rydychen – ac rydym yn eich cynnwys ar y daith o’r cychwyn cyntaf. Ers i dân ddinistrio’r hen dafarn yn 2007, mae’r safle wedi bod yn wag, ond fe welsom ei botensial i fod yn sylfaen i gymuned lewyrchus! […]
16 o gartrefi fforddiadwy yn dod i GefnCribwr!
Wedi’i gefnogi gan grant o £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru, rydym yn rhoi gwedd newydd gyfan i hen safle Dŵr Cymru! Erbyn diwedd 2027, bydd wedi’i drawsnewid yn gartrefi fforddiadwy. Mae pawb yn haeddu lle diogel i fyw ynddo, felly rydym yn falch o gael helpu teuluoedd, cyplau ac unigolion i fwrw gwraidd ym Mhen-y-bont […]
Gweithio gyda’n gilydd i ddiogelu eichcartref a’ch cymuned
Ein blaenoriaeth bennaf yw sicrhau eich bod yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus yn eich cartref. Rydym i gyd yn gwybod y gall y tywydd yn ein cymoedd fod yn anrhagweladwy, a dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld mwy o law trwm, stormydd, a chyfnodau sydyn o dywydd poeth. Er mwyn sicrhau bod […]
Dathlu’r bobl a’r lleoedd sy’n goleuo Pen-y-bont ar Ogwr
Diolch i’ch adborth chi, rydym yn lansio cystadleuaeth i ddathlu hyrwyddwyr lleol! Rydym yn gwybod bod yna arwyr cudd sy’n gwneud Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwell, ac maen nhw’n haeddu cydnabyddiaeth ac anrheg o ddiolch gennym ni! A allwch chi daflu sbotolau arnynt? Am beth y gallaf enwebu rhywun? Bod yn hyrwyddwr cymunedol: Rhywun […]
Trawsnewid Coed Bach Dimbath: rydynni wedi bod yn brysur!
Cyn y Nadolig, fe wnaethom gyhoeddi ein cynlluniau i adfywio Coed Bach Dimbath fel rhan o’n prosiect Twf er Daioni (Growth for Good). Dyma’r stori hyd yma… Rhagfyr Ein nod oedd cynnwys pobl leol ar y daith o’r dechrau, felly fe wnaethom gynnal digwyddiad ymgysylltu cymunedol ar Rodfa Dimbath ym mis Rhagfyr, lle ymunodd 20 […]
Cefnogi ein cymunedau ynWildmill: Cadwch lygad am yrarwyddion newydd!
Fel cymdeithas dai, mae gennym gyfrifoldeb i helpu i gadw ein strydoedd yn ddiogel. Dyna pam rydym yn falch o barhau â’n gwaith partneriaeth â Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau difrifol ar ystad Wildmill. Y llynedd, cafwyd adroddiadau am droseddau yn yr ardal yn gysylltiedig â materion fel masnachu a […]