Rydym mor falch bod ein hymrwymiad i wella gwasanaethau wedi cael cydnabyddiaeth, gydag enwebiadau am wobrau mewn sawl categori, gan gynnwys:

Gwobr Cefnogi Byw’n Annibynnol

Cawsom sgyrsiau gyda 178 o breswylwyr ar draws saith cynllun er mwyn llunio gwasanaeth cynnal a chadw tiroedd mewnol sy’n diwallu anghenion cwsmeriaid.

Yn fuan iawn, sylweddolom bod preswylwyr â symudedd cyfyngedig yn methu cael mynediad llawn at eu gerddi, ac roeddem yn gwybod bod rhaid i hyn newid.

Erbyn hyn, mae ein tîm yn canolbwyntio ar dacluso ymylon llwybrau, clirio mwsogl llithrig, a thorri mieri fel bod preswylwyr yn gallu symud o gwmpas yn ddiogel. Mae cwsmeriaid wedi dweud wrthym eu bod yn edrych ymlaen at gylchred cynnal a chadw rheolaidd y tîm bob 18–20 diwrnod, ac yn mwynhau defnyddio’r planhigion a’r compost am ddim rydym yn eu darparu. Trwy ddarparu’r gwasanaeth hwn yn fewnol, rydym hyd yn oed wedi llwyddo i leihau’r tâl gwasanaeth o £1 yr wythnos fesul cwsmer ar gyfartaledd!

Tîm Tai y Flwyddyn

Ym mis Medi 2023, cyflwynom y rôl benodedig, Partner Busnes Cwynion, yn ein tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid, wrth i ni sylweddoli ein bod yn cael anhawster i ymdopi ag ôl-groniad o gwynion.

Adeiladodd ein Partner Busnes rwydwaith cryf ar draws y sefydliad, gan rymuso rheolwyr ac arweinwyr tîm i gymryd cyfrifoldeb am bryderon cwsmeriaid. Mae ein Partner Busnes hefyd yn gweithio’n agos gyda dau driniwr galwadau yn Llanw, a hyfforddwyd i ddatrys materion yn unol â pholisi a delio â chwynion hŷn.

Fel tîm, maent wedi cyflawni dwy garreg filltir fawr eleni: adroddiad blynyddol eithriadol o gadarnhaol gan yr Ombwdsmon. Tai a sgôr Archwiliad Mewnol o “Sicrwydd Sylweddol”– y lefel uchaf o hyder rheoliadol! Mae’r ffigurau’n dweud y cyfan:

  • Mae cwynion gweithredol wedi disgyn o 235 i 55, gan dorri achosion hirdymor (>6 mis) o 61 i ddim ond 2.
  • Mae oed cyfartalog yr achosion gweithredol wedi gostwng o 104 diwrnod i 31 diwrnod.
  • Mae’r gydymffurfiaeth ag amserlenni ymateb yr Ombwdsmon Tai wedi codi o 32% (2024/25) i’r swm perffaith o 100% (2025/26)!

Rhagoriaeth mewn Cyfranogiad Tenantiaid

Lansiom ein Hymrwymiad Llais Cwsmeriaid a Chymuned y llynedd, a gyd-gynhyrchwyd gyda thenantiaid i drawsnewid sut mae cwsmeriaid yn dylanwadu ar wneud penderfyniadau a darparu gwasanaethau. Ers hynny, rydym wedi cael dros 1,200 o ryngweithiadau â chwsmeriaid, ac mae eu barn yn dylanwadu ar newidiadau cadarnhaol gan gynnwys:

  • Mae tenantiaid yn cefnogi recriwtio’n reolaidd – yn fwyaf diweddar drwy eistedd ar y panel cyfweld i ddewis y Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Thrawsnewid.
  • Sefydlom grŵp darllen newydd i gefnogi cyfathrebu hygyrch. Mewn sesiwn ddiweddar, adolygom y llythyrau apwyntiadau ar gyfer archwiliadau cydymffurfio blynyddol i roi mwy o wybodaeth a’u gwneud yn llai ‘dychrynllyd’ i’n helpu i wella’r cyfraddau mynediad.
  • Rydym wedi cyflwyno digwyddiadau galw heibio misol y tu allan i oriau gwaith fel bod tenantiaid sy’n gweithio’n llawn amser yn gallu mynychu.
  • Mae’r camau hyn wedi gwell bodlonrwydd cyfranogi, gyda ‘bodlonrwydd gyda’r cyfleoedd i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau’ yn codi o 8% flwyddyn ar ôl blwyddyn i 64%!

Gwobr Rhagoriaeth mewn Hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Rydym am i amrywiaeth a chynhwysiant ddylanwadu ar bob agwedd o’n gwaith, bob dydd. Ni ddylai fod yn ôl-ystyriaeth. Felly, y llynedd, dechreuom weithio tuag at wobr Ansawdd mewn Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (QED) Tai Pawb gyda’r nod o ymwreiddio polisïau ac arferion cynhwysol ar draws ein sefydliad.

Roeddem yn falch iawn o dderbyn yr achrediad eleni, ar ôl cyflawni cyfres o gamau gweithredu a amlinellwyd gan Tai Pawb, gan gynnwys:

  • Sefydlu grŵp Lleisiau Cyfartal, gan alluogi tenantiaid i lunio ein gwasanaethau.
  • Cyflwyno offer hygyrchedd ar ein gwefan.
  • Casglu data cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gan fwy na 2,000 o ddenantiaid.
  • Darparu hyfforddiant iaith Gymraeg ac iaith arwyddion i staff.

Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid

Derbyniodd ein tîm enwebiad yn y categori hwn hefyd am ein gwaith cwynion (a amlinellir uchod), a derbyniodd ein cydweithwyr yn Llanw enwebiad hefyd – darllenwch amdano yma!

P’un a fyddwn yn ennill neu beidio, rydym yn falch iawn o gael ein cynnwys ar y rhestr fer am gymaint o wobrau. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dyst i ymrwymiad ein cydweithwyr i welliant parhaus – ac rydym yn ymfalchïo yn ein tîm!