Y mis diwethaf, rhoddodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, ganmoliaeth i’n prosiect Twf er Daioni am arwain y ffordd yng Nghymru. Y mis hwn, roeddem yn falch o gael dangos ein mannau awyr agored iddo!
Mae ein prosiect tymor hir, Twf er Daioni’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i ddarparu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ac mae’n canolbwyntio ar drawsnewid mannau awyr agored.
Ymunodd Derek â ni am daith o amgylch Coed Bach Dimbath a’n coedwigoedd bychain (ond grymus!) yng Nghefn Glas.
Coed Bach Dimbath
Rydym yn trawsnewid Coed Bach Dimbath, a elwid gynt yn Blackmill Woodland, yn ganolfan natur fywiog y gall pobl leol ei mwynhau.
Cefn Glas
Mae Cefn Glas bellach yn gartref i ddwy goedwig fychan nodedig sy’n dod â buddion coetir i ardaloedd trefol.
Roedd yn dda gennym hefyd groesawu Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a’n contractwr llwybrau, Greenspace SOS, i’r ymweliadau.
Rhoddodd yr ymweliad hwn gyfle i ni ddangos i’r Comisiynydd a’r Cyfarwyddwr sut yn union mae eu cyllid yn cefnogi bioamrywiaeth, gwaith adfer a lleihau carbon.
Er enghraifft, mae plannu miloedd o goed ar hyd ein coedwigoedd bychain yn helpu’r amgylchedd drwy:
- Warchod y gymuned rhag effeithiau llifogydd drwy amsugno dŵr glaw.
- Denu hyd at 500 o rywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion.
- Storio carbon diocsid, gan leihau lefelau’r nwy niweidiol sy’n cael ei ryddhau i atmosffer y ddaear.
Mae gofalu am fannau awyr agored Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi ein nod o greu cymunedau lle gallwn ffynnu.
Er ei bod yn ddiwrnod glawog, gwnaeth y safleoedd gryn argraff!
Meddai Derek: “Wrth edrych ar ddyfodol hirdymor ein gwlad, rydym yn gwybod bod angen i ni wneud mwy i fynd i’r afael â newid hinsawdd, felly mae wedi bod yn braf gweld sut mae Cymoedd i’r Arfordir wedi bod yn gweithio gyda phreswylwyr i adfer natur, plannu coed a chefnogi llesiant pobl.”
Ychwanegodd Andrew: “Y peth a wnaeth argraff arna i oedd grym gwirfoddoli a chymuned, a’r cysylltiad rhwng tai, ysgolion a busnesau lleol. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cymryd rhan oherwydd rydych chi’n gwneud gwaith gwych a boed iddo bara am amser hir!”