Nid darparu cartrefi a gofalu amdanynt yw’r unig beth rydyn ni’n ei wneud; rydyn ni wedi ymrwymo i wella ein cymunedau fel y gallwch chi deimlo’n ddiogel ac yn falch o ble rydych chi’n byw.
Dyna pam ein bod ni’n ymuno â Crimestoppers i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ein trothwy, ac i’ch helpu chi i deimlo’n hyderus wrth adrodd am bryderon.

Gwybodaeth am Crimestoppers
Mae Crimestoppers yn eich galluogi chi i adrodd am droseddau 100% yn ddienw.
Maen nhw’n elusen sy’n gwbl ar wahân i’r heddlu – ac ni fyddant byth yn cymryd eich manylion os byddwch chi’n nodi digwyddiad neu’n rhoi gwybodaeth iddynt.
Maen nhw hefyd yn cynnig gwobrau arian parod o hyd at £1000 os yw’ch adroddiad yn arwain at ganlyniad llwyddiannus.
Noder – nid gwasanaeth brys yw Crimestoppers. Mewn argyfwng, mae’n rhaid i chi bob amser ffonio’r heddlu ar 999.
Hefyd, nid yw Crimestoppers yn cymryd gwybodaeth yn uniongyrchol gan ddioddefwyr troseddau oherwydd eu bod yn rhedeg gwasanaeth dienw.
Mae Crimestoppers yn cynnig ffordd fwy diogel o drosglwyddo gwybodaeth hanfodol, felly rydyn ni’n falch o’u helpu nhw i hyrwyddo eu gwasanaeth yn ein cymuned.
Yr wythnos diwethaf, aethon ni i Gaerau i osod eu harwyddion, gan godi ymwybyddiaeth o’u gwasanaethau.

Pam Caerau?
Rydyn ni’n defnyddio data i arwain ein proses o wneud penderfyniadau a derbyniodd Heddlu De Cymru 53 o adroddiadau am droseddau yng Nghaerau yn unig ym mis Mehefin eleni.
Dywedodd Lianne Bulford, Pennaeth Tai:
“Rydyn ni’n gwybod bod problemau o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu yng Nghaerau, ond nid yw pob digwyddiad yn cael ei nodi. Felly, rydyn ni’n gobeithio y bydd apêl Crimestoppers yn rhoi tawelwch meddwl i gymunedau o ran cyfrinachedd wrth adrodd am y digwyddiadau hyn, fel y
gwnaeth yn Wildmill.”
Gosododd Crimestoppers yr arwyddion cyntaf yn Wildmill ym mis Mawrth 2024, dros y ddwy flynedd ddilynol, gwelwyd gostyngiad o 40% mewn troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol!
Felly beth a gyflawnwyd gan ddigwyddiad Caerau?
● Llwyddodd ein gofalwyr i roi’r holl arwyddion i fyny!
● Rydyn ni wedi dosbarthu taflenni i breswylwyr ym Mlaencaerau.
● Rydyn ni wedi cryfhau ein partneriaeth â Crimestoppers a Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n hanfodol er mwyn mynd i’r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymuned.

Gallwn ni i gyd atal troseddu yn ei unfan!
Os ydych chi’n clywed am unrhyw weithgarwch troseddol neu os oes gennych chi unrhyw bryderon, cofiwch y gallwch chi adrodd am wybodaeth 100% yn ddienw i Crimestoppers.
Diolch am helpu i gadw ein cymunedau’n ddiogel!