Efallai i chi ein gweld ar Safle Bettws Bottom yr wythnos ddiwethaf, yn mynd am dro ac yn dal i fyny gyda chwsmeriaid sy’n byw yno.

Nid dim ond cael awyr iach ac ymarfer corff yw diben y digwyddiadau hyn fodd bynnag – maent yn rhoi cyfle i ni ddod i adnabod ein cymunedau’n well, gwrando ar brofiadau pobl ac ystyried barn cwsmeriaid wrth wneud penderfyniadau.
Daethom â’n tîm Tai, Ystadau, Incwm, Datblygu ac Atgyweirio gyda ni er mwyn i bobl allu sgwrsio â ni am unrhyw beth. Ymunodd ein Tîm Gweithredol, cydweithwyr o Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr, a thri Aelod o’r Senedd a oedd yn cynrychioli’r tri phlaid wleidyddol leol â ni hefyd.

Dyma sut y gwnaethom gefnogi’r cwsmeriaid a ddaeth heibio:
- Helpwyd 6 cwsmer i nodi atgyweiriad
- Casglwyd manylion cyswllt wedi’u diweddaru ar gyfer 5 person
- Helpwyd 17 o gwsmeriaid i lenwi ein arolwg rhent
- Nodwyd 30 o awgrymiadau ynghylch sut i wella ein hystadau
- Cofrestrwyd 5 cwsmer ar ein rhestr ‘cwsmeriaid sy’n cymryd rhan’, gan roi’r cyfle iddynt gymryd rhan mewn arolygon a phaneli trafod yn y dyfodol i ddylanwadu ar ein gwasanaethau.

Moment galonogol
Aeth nifer fawr o bobl yno, ac roeddem yn falch o helpu cymaint o bobl. Un o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd cyfarfod â theulu bodddar a ddaeth heibio yn gobeithio am gyfle i gysylltu â Dŵr Cymru. Diolch i gydweithwyr ar y safle sy’n medru Iaith Arwyddion Prydain (BSL), gwnaethom chwalu’r rhwystrau hynny a’u helpu i gysylltu â Dŵr Cymru a nodi atgyweiriad i Llanw!
Taith gyflym o gwmpas Cwrt Cwm Garw
Aethom ar daith fer i Gwrt Cwm Garw hefyd i weld ein 21 o chartrefi newydd sydd bron â gorffen ac ar y trywydd iawn i gael eu trosglwyddo ym mis Medi eleni!

Ond beth rydym wedi’i ddysgu?
Cawsom lefel uchel o sgyrsiau cadarnhaol gyda chwsmeriaid, ond cododd rhai preswylwyr bryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Woodland Close ar nosweithiau Iau a Gwener, diffyg cyfleusterau i ieuenctid, a llwybrau cerdded sydd angen eu hatgyweirio ger y parc chwarae.
Gwnaethom wrando ar adborth am garejys nad ydynt yn cael eu defnyddio yn Maesglas hefyd, ac rydym yn dilyn hynny i fyny’n uniongyrchol ynghylch mater cyfrinachol a godwyd gan breswylydd.
Gan adeiladu ar yr adborth hwn, byddwn yn cnocio ar ddrysau dros y wythnosau nesaf i lenwi rhagor o arolygon a chadw’r sgwrs i fynd.
Diolch i bawb a wnaeth y diwrnod yn un llwyddiannus! Cadwch eich llygaid ar agor am y digwyddiad Arwain nesaf.
