Rydym yn llawn tristwch yn sgil y digwyddiad trasig ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 19 Hydref, a gallwn gadarnhau bod aelod o’n tîm yn rhan ohono.
Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau ein cydweithiwr, a phawb yr effeithir arnynt gan hyn.
Rydym yn cydweithio’n agos gyda Heddlu De Cymru ac yn cydweithredu’n llawn â’u hymchwiliad parhaus.
O ystyried yr amgylchiadau a’r ymchwiliad parhaus gan yr heddlu, ni fyddai’n briodol i ni wneud unrhyw sylwadau ychwanegol ar hyn o bryd.