Yr wythnos hon, cynhaliwyd ein CCB – cyfle i gyfarfod â’n cyfarwyddwyr, aelodau’r bwrdd a’n cyfranddalwyr i lofnodi ein datganiadau ariannol, dathlu ein cyflawniadau, ac ymrwymo i welliannau pellach.

Bu tipyn o weithgaredd yn ystod yr prynhawn, felly eisteddwch yn ôl a gadewch i ni eich diweddaru:

“Eleni rydym wedi troi uchelgais yn weithredoedd”

Cychwynnodd Cadeirydd y Bwrdd, Amanda Davies, y busnes swyddogol drwy fyfyrio ar ein cyflawniadau diweddar, gan gynnwys:

  • Sbarduno hwb sylweddol mewn boddhad cwsmeriaid ar draws ein holl feysydd craidd, gan gynnwys ansawdd cartrefi, atgyweiriadau cyffredinol, a’n hymateb i ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Ymestyn ein hôl troed y tu hwnt i Ben-y-bont ar Ogwr i ddiwallu’r angen cynyddol am dai. Yn fwyaf nodedig, rydym wedi dechrau cynllunio ein cynllun fforddiadwy cyntaf yng Nghaerdydd!
  • Sicrhau dyfarniad gwyrdd ar gyfer Llywodraethu a Chyflenwi Gwasanaethau, sy’n rhoi sicrwydd i ni ein bod yn rhedeg ein sefydliad yn effeithiol.

Nodi carreg filltir o ran gwella gwasanaethau

Y llynedd, cyhoeddom ein bod yn cychwyn ar ein taith i gyflawni achrediad drwy’r Gynghrair Tai Cam-drin Domestig (DAHA).

Rydym mor falch o lwyddo i ennill ein gwobr gyntaf yn swyddogol – y wobr efydd – a rhannom y newyddion hyn gyda phawb yn y CCB.

Mae gweithio tuag at achrediad llawn yn golygu drafftio cynllun gweithredu a dangos tystiolaeth o’n cynnydd. Rydym eisoes wedi hyfforddi 60 o aelodau o’r staff rheng flaen i ymateb i ddatgeliadau o gamdriniaeth ac wedi gweithredu polisi cwsmeriaid camdriniaeth ddomestig newydd. Gallwch ddarllen mwy yma.

Cymorth ac adnoddau

Dathlu ein hachrediad QED

Ers y llynedd, rydym wedi bod yn gweithio tuag at ennill gwobr Ansawdd mewn Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Tai Pawb – sef marc ansawdd clodfawr ar gyfer sector tai Cymru. Mae’n darparu fframwaith trwyadl i helpu sefydliadau i asesu a gwella’u dull o weithredu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Croesawom dîm Tai Pawb i’r CCB fel y gallem ddiolch iddynt am ein helpu i sefydlu arferion cynhwysol, megis ychwanegu nodweddion hygyrchedd at ein gwefan, a sefydlu Grŵp Llais Cyfartal fel y gall cwsmeriaid lywio ein gwasanaethau. Gallwch ddarllen mwy am ein taith QED yma.

Rhoi llwyfan i’n cyd-weithwyr sydd wedi gwasanaethu’n hir!

Roedd yn bleser gennym hefyd ddangos ein gwerthfawrogiad i rai o’n cyd-weithwyr sydd wedi gwasanaethu hiraf yn ystod ein CCB. Gwahoddwyd y rhai sy’n dathlu 10, 15, neu 20 mlynedd o wasanaeth gyda Chymoedd i’r Arfordir fel y gallem gyflwyno talebau siopa (a chacen!) iddynt fel arwydd o’n diolch.

Felly, sut olwg sydd ar ein cyllid?

Yn nesaf, cyflwynom Ddatganiadau Ariannol Blynyddol Cymoedd i’r Arfordir Cyfyngedig ar gyfer y Flwyddyn Ariannol a ddiweddodd ar 31 Mawrth 2026.

Mae’n bleser gennym adrodd ein bod wedi gorffen y flwyddyn mewn safle ariannol cryf, gyda gwarged o £1,779k – sef cynnydd sylweddol ar y £701k yn y flwyddyn flaenorol – ac asedau net gwerth £52.5m bellach.

Ond ar ben hynny, rydym wedi darparu cartrefi diogel a chlyd i 200 o bobl, wedi buddsoddi £16 miliwn yn ein cartrefi presennol, ac wedi cwblhau 29,000 o atgyweiriadau.

Am ble rydym yn anelu nesaf

Mae ein CCB yn cynnig cyfle i rannu ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd o’n blaenau:

  • Buddsoddi mewn technoleg, data a deallusrwydd artiffisial.
  • Sicrhau bod gweithgareddau datblygu Sylfaen yn effeithlon yn ariannol.
  • Cynnal archwiliad iechyd i sicrhau bod y modd y mae ein llywodraethu wedi’i strwythuro’n darparu’r safonau craffu a chymorth uchaf.

Cyflwyno ein cynllun corfforaethol newydd!

Yn olaf, lansiom gynllun corfforaethol newydd sbon: ein map ffordd ar gyfer y pum mlynedd nesaf, a fydd yn ein cadw ar y trywydd iawn i gyflawni ein nodau hirdymor.

Eisiau gweld beth fyddwn yn ei flaenoriaethu yn y pum mlynedd nesaf? Darllenwch y cynllun yma!