Diolch i’r rhai sydd wedi cwblhau arolwg STAR eleni! Caiff yr arolygon hyn eu cynnal yn flynyddol gan bob landlord cymdeithasol cofrestredig i’n helpu i ddeall pa mor fodlon yw cwsmeriaid ar ein gwasanaethau.
Rydym yn falch bod eich boddhad wedi tyfu mewn sawl maes allweddol, ond nododd eich sylwadau hefyd rai meysydd gwasanaeth sydd angen eu gwella. O’u cymharu â chanlyniadau llynedd, rydych chi’n fwy bodlon neu’r un mor fodlon ar bethau fel:
- Ansawdd eich cartref – 73% yn fodlon (cynnydd o 4%).
- Ein gwasanaeth atgyweirio yn gyffredinol – 61% yn fodlon (cynnydd o 2%).
- Ein dull o fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol – 60% yn fodlon (cynnydd o 1%).
- Rhent fel gwerth am arian – 76% yn fodlon (wedi aros yr un fath).
- Sut rydym yn gwrando arnoch chi ac yn gweithredu ar yr hyn rydych chi’n ei ddweud – 52% yn fodlon (wedi aros yr un fath).
Fodd bynnag, rydych chi ychydig yn llai bodlon ar:
- Ein gwasanaethau yn gyffredinol – 67% yn fodlon (gostyngiad o 1%).
- Y gymdogaeth fel lle i fyw ynddi – 78% yn fodlon (gostyngiad o 4%).
- Tâl gwasanaeth fel gwerth am arian – 62% yn fodlon (gostyngiad o 1%).
- Teimlo’n saff a diogel yn eich cartref – 79% yn fodlon (gostyngiad o 1%).
- Cyfleoedd i gefnogi ein proses o wneud penderfyniadau – 58% yn fodlon (gostyngiad o 1%).
- Eich ymddiriedaeth ynom ni fel landlord – 63% yn fodlon (gostyngiad o 2%).
Canlyniadau llawn arolwg STAR
Gallwch ddarllen mwy yma, a gwirio ein canlyniadau o flynyddoedd blaenorol.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Rydym yn ymchwilio’n ddyfnach i’r meysydd lle mae ein boddhad wedi disgyn, a byddwn yn gofyn i chi beth allwn ni ei wneud i wella. Rydym hefyd yn edrych ar yr hyn rydym wedi’i wneud yn dda, i ddysgu o’n llwyddiannau a gwneud mwy ohono.
Y mis hwn, fe wnaethom lansio ein cynllun corfforaethol newydd, sy’n rhoi map ffordd clir i ni ar gyfer gwella ein gwasanaethau dros y pum mlynedd nesaf.
Mae’n esbonio ein diben newydd – darparu cartrefi a buddsoddi yn y lleoedd a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu – ac yn nodi camau gweithredu clir ar hyd y ffordd. Drwy wneud newidiadau i’r ffyrdd rydym yn gweithio, gobeithiwn y gallwn wella boddhad cwsmeriaid yn y dyfodol.
Er enghraifft, gallai defnyddio data i ragweld ac atal problemau cyn iddynt ddod yn faterion atgyweirio gynyddu eich ymddiriedaeth ynom yn gyffredinol, a dylai buddsoddi yn y mannau awyr agored yn ein cymunedau gynyddu eich boddhad yn eich cymuned fel lle i fyw ynddo.
Fel bob amser, rydym am gael ein harwain gan eich profiadau a’ch syniadau chi, felly os oes gennych rywbeth yr hoffech siarad â ni amdano – boed rhywbeth rydych yn fodlon neu’n anfodlon arno – cysylltwch â ni ar 0300 123 2100 neu TheHub@V2C.org.uk.