Rydym yn falch o groesawu James O’Connor i’r grŵp, a fydd yn ein harwain trwy gyfnod cyffrous o drawsnewid a thwf!

Cawsom sgwrs gyda James i gael gwybod sut fydd ei brofiad blaenorol yn ei helpu i lwyddo yn y rôl hon – a beth y mae’n edrych ymlaen ato fwyaf.


Beth oedd eich rôl fwyaf diweddar, a sut mae wedi eich paratoi ar gyfer y swydd hon?

Fel cyn-Gyfarwyddwr Cyllid Corfforaethol a Chynaliadwyedd yn Codi Group, rwy’n dod â phrofiad o arweinyddiaeth ac arbenigedd mewn newid strategol, llywodraethu ariannol, a gwella sefydliadol.

Beth yw eich blaenoriaethau yn y rôl newydd hon?

Byddaf yn goruchwylio ein strategaeth ariannol ac yn arwain ein hagenda trawsnewid, gan ganolbwyntio ar atgyfnerthu ein mantolen, moderneiddio ein systemau, a sicrhau ein bod yn defnyddio ein hadnoddau’n effeithiol fel y gallwn ailfuddsoddi’n uniongyrchol yn ein cartrefi a’n cymunedau.

Beth ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf ato ynghylch bod yn rhan o’r Grŵp Cymoedd i’r Arfordir?

Rwyf wrth fy modd o gael ymuno â’r grŵp ar gyfnod mor gyffrous. Mae gan ein huchelgais ymrwymiad clir, diffuant i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau pobl a chymunedau. Rwy’n edrych ymlaen yn
arbennig at weithio ochr yn ochr â’r tîm i adeiladu ar eu sylfeini cadarn, sbarduno arloesedd, a helpu i’n llywio trwy ein pennod nesaf o dwf a rhagoriaeth mewn gwasanaeth!

“Mae James yn rhannu ein hymrwymiad calonnog i’n pobl”

Ychwanegodd Jo Oak, Prif Weithredwr y Grŵp:

Rydym wrth ein bodd o gael croesawu James i’n tîm wrth i ni ddechrau’r bennod drawsnewidiol a ddisgrifir yn ein Cynllun Corfforaethol newydd. Mae James yn dod â phrofiad, egni, a syniadau newydd a fydd yn ein helpu i adeiladu ein cryfder ariannol a buddsoddi mwy yn ein cartrefi a’n
cymunedau ar yr un pryd. Yn bwysicaf oll, mae’n rhannu ein hymrwymiad calonnog i’n pobl ac i wneud gwahaniaeth cadarnhaol, parhaol yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”