Rydym wedi’n chwalu gan farwolaeth drasig ein cydweithiwr, Eleanor Barnfield.

Roedd Eleanor yn aelod gwerthfawr iawn o dîm Cymoedd i’r Arfordir, ac mae ei cholli wedi effeithio’n ddwfn ar bawb a oedd yn ei hadnabod ac yn gweithio ochr yn ochr â hi.

Gwnaeth gyfraniad pwysig i’n sefydliad ac i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, a bydd ei chydweithwyr yn ei chofio gyda gwres ac anwyldeb mawr.

Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad dwysaf gydai theulu a ffrindiau Eleanor yn y cyfnod anodd anhygoel hwn. Rydym yn gwneud pob dim posibl i gefnogi cydweithwyr sy’n galaru.

Rydym yn parhau i gydweithio’n llawn â Heddlu De Cymru, ac er parch at deulu Eleanor a’r ymchwiliad sydd ar y gweill, ni fyddwn yn gwneud sylwadau pellach ar amgylchiadau ei marwolaeth ar hyn o bryd.