Y llynedd, cyhoeddom ein bod yn cychwyn ar ein taith i ennill achrediad drwy’r
Gynghrair Tai Cam-drin Domestig (DAHA).

Rydym mor falch o gyhoeddi ein bod wedi ennill ein gwobr gyntaf yn swyddogol – y wobr efydd!

Mae hyn yn gadarnhad ein bod yn gwneud ein gwasanaethau’n fwy diogel i gwsmeriaid a chyd-weithwyr.

Pam mae hyn yn bwysig?

Mae cam-drin domestig yn effeithio ar un o bob pump oedolyn yn ystod eu hoes. Yn drychinebus, y cartref – lle dylai pobl deimlo’n fwyaf diogel – yw’r man mwyaf peryglus yn aml i ddioddefwyr.

Fel landlord cymdeithasol, gallwn ninnau wneud gwahaniaeth. Drwy nodi ac ymateb i gam-drin domestig yn gynnar, gallwn amddiffyn dioddefwyr a’u plant rhag niwed, atal digartrefedd, a thorri’r cylch cam-drin.

Y ffordd at achrediad

Mae gweithio tuag at achrediad llawn yn golygu drafftio cynllun gweithredu a dangos tystiolaeth o’n cynnydd tuag at y camau gweithredu hynny.

Dyma sut llwyddom i ennill y wobr efydd!

  • Rydym wedi hyfforddi dros 60 aelod staff rheng flaen ar sut i ymateb pan fydd rhywun yn datgelu cam-drin ac i weithio gyda pherson i wella’u diogelwch.
  • Rydym wedi datblygu a gweithredu Polisi Cam-drin Domestig newydd i’n cwsmeriaid (ar gael ar ein gwefan).
  • Rydym wedi cyflwyno gweithdrefn newydd sy’n rhoi arweiniad i staff pan fyddant yn dod i wybod am gam-drin domestig.
  • Rydym wedi cynllunio a gweithredu proses rheoli achosion ar gyfer trin y gwaith sensitif a risg uchel hwn.
  • Rydym wedi cryfhau ein partneriaethau ag asiantaethau allweddol, gan helpu i daclo cam- drin domestig yn ein cymunedau.

Meddai Sam Strong, ein Swyddog Diogelu ac arweinydd y grŵp prosiect:

“Rwy’n falch iawn am ein bod wedi cyflawni ein cam cyntaf tuag at achrediad llawn. Mae hwn yn gam mawr ymlaen wrth sicrhau ein bod yn cyflwyno’r gwasanaethau mwyaf diogel yn gyson i’r rhai sy’n dioddef cam-drin domestig yn ein cartrefi.

“Mae DAHA yn gywir wrth fynnu safonau uchel gan y sefydliadau sydd am ennill achrediad ac mae’n rhaid cyflwyno tystiolaeth ar draws ystod eang o feysydd. Mae’n rhaid i weithredoedd ategu’r geiriau – maent eisiau’r hyn sydd orau i oroeswyr, ac ni fyddant yn derbyn dim llai.

“Rwy’n hyderus bod hyn eisoes yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon, ond dechrau ein taith yw hon.”

Beth i’w wneud os oes gennych bryder am gam-drin domestig?

Os ydych yn pryderu amdanoch eich hun neu rywun rydych yn meddwl y gallent fod yn byw gyda cham-drin domestig, gallwch ffonio ein tîm gwasanaeth cwsmeriaid ar 0300 123 2100. Gallwn drafod opsiynau tai, ystyried mesurau diogelwch ychwanegol y gellid eu gosod yn eich cartref, neu eich cyfeirio at y cymorth cywir.

Mewn argyfwng, ffoniwch 999 yn gyntaf bob amser.

Adnoddau lleol a chenedlaethol

  • Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae ASSIA yn cefnogi’r rhai sy’n dioddef oherwydd cam-drin domestig ac yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr i ddioddefwyr a throseddwyr. Gallwch eu ffonio ar 01656 815919 neu fynd i’r wefan am ragor o wybodaeth –Cam-drin domestig – CBS Pen-y-bont ar Ogwr.

  • Mae Byw Heb Ofn Cymru’n darparu cymorth cyfrinachol, am ddim 24/7. Gallwch eu ffonio ar 0808 80 10 800 ac ni fydd galwadau’n ymddangos ar filiau ffôn llinell dir. Gallwch hefyd gael mynediad at gymorth testun 24/7 ar 07860 077333. Gall defnyddwyr ffôn testun gysylltu â Byw Heb Ofn drwy Typetalk ar 18001 0808 80 10 800.