Mae eich adborth wedi llywio ein contract torri newydd a gwell!

Ers blynyddoedd, mae sawl contractwr wedi bod yn torri ein gwair rhwng misoedd Ebrill a Hydref. Eleni, rydym yn mabwysiadu ymagwedd newydd sbon.

Chithau a ddywedodd, ninnau a weithredodd

I lunio’r contract, fe ofynnon ni i gwsmeriaid yn ein digwyddiadau #CaruEichStryd beth yn union oedden nhw ei eisiau. Fe wnaethon ni hefyd adolygu ein cwynion i weld beth nad oedd yn gweithio’n rhy dda, ac fe gynhaliom arolwg barn ar Facebook, gyda 30 o gwsmeriaid yn ymateb iddo. Roedd eich atebion yn gwbl glir – rydych chi eisiau mwy am eich arian!

Mwy na dim ond torri gwair

Rydym yn falch o rannu bod ein contract newydd yn cynnwys amserlen o 9 toriad fesul ystad yn ystod y tymor tyfu, gyda gwaith ychwanegol drwy gydol y flwyddyn.

Rhaglen yr haf:

  • Ymylu llwybrau
  • Clirio dail
  • Tynnu chwyn a mwsogl
  • Cynnal a chadw llwyni a gwrychoedd
  • Plannu bylbiau, blodau gwyllt a helyg
  • Clirio tipio anghyfreithlon

Rhaglen y gaeaf:

Nid ydym am esgeuluso ein mannau llwyd
fel meysydd parcio a safleoedd garejys,
felly bydd Countrywide yn defnyddio’r
misoedd oerach i gyflawni’r canlynol:

  • Cynnal a chadw lloriau caled
  • Cynnal a chadw coed
  • Clirio tipio anghyfreithlon
  • Ysgubo malurion fel gwydr wedi torri, brigau
    a dail
  • Tocio unrhyw blanhigion goresgynnol
  • Chwistrellu chwyn

Mae defnyddio un contractwr yn unig yn golygu y bydd pob ystad yn cael gofal o’r un safon ac y gallwn ddarparu adborth yn hawdd.

Pam Countrywide?

Rydym yn cymryd eich tâl gwasanaeth o ddifrif, felly rydym wedi dewis contractwr y gallwn ymddiried ynddo i ofalu’n dda am eich mannau agored.

Mae Countrywide eisoes yn gofalu am safleoedd y GIG, y llywodraeth a safleoedd tai ledled y wlad. Yn syml, maent yn gwmni sefydledig, ac maent yn defnyddio’r offer gorau i wneud gwaith proffesiynol.

Ymsefydlu

Er bod gan Countrywide gyfoeth o brofiad, bydd angen amser arnynt i ddod yn gyfarwydd â chynlluniau penodol ein hystadau ac i addasu eu peiriannau i siwtio anghenion amrywiol y tir. Maent hefyd yn gorfod brwydro yn erbyn gwres eithafol yr haf hwn, felly byddwch yn amyneddgar wrth iddynt ddelio â’r trafferthion cychwynnol hyn a rhoi eich rhaglen dorri newydd ar waith.

Fel arfer, os oes unrhyw broblemau gyda’ch toriadau, rhowch wybod i ni drwy anfon lluniau a byddwn yn gwneud ein gorau i’w datrys yn gyflym.

Beth am ein cynlluniau byw yn y gymuned?

Bydd pethau’n gweithio ychydig yn wahanol gyda’n cynlluniau byw yn y gymuned. Ar eich cais, rydym wedi adfer gwaith cynnal a chadw tir mewnol, felly bydd ein tîm yn gofalu am eich gerddi drwy gydol y flwyddyn.

Gan fod yr haf ar fin cyrraedd, rydym yn edrych ymlaen at wneud y mwyaf o’n mannau awyr agored eto!