Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau gweithio ar ein datblygiad ar safle’r Ffaldau Arms ar Stryd Rydychen – ac rydym yn eich cynnwys ar y daith o’r cychwyn cyntaf.

Ers i dân ddinistrio’r hen dafarn yn 2007, mae’r safle wedi bod yn wag, ond fe welsom ei botensial i fod yn sylfaen i gymuned lewyrchus!

Nodweddion allweddol:

  • 12 fflat un a dwy ystafell wely, a phob un ar gyfer rhentu cymdeithasol.
  • Gwasanaeth bws bob hanner awr i Ben-y-bont ar Ogwr a Blaengarw.
  • Siopau, ysgolion a chaffis y gellir cerdded iddynt o’r cartrefi.
  • Cartrefi a adeiladir gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern i leihau’r effaith ar yr amgylchedd.

Sut rydym yn ariannu ac yn cyflawni’r cynllun?

Mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £2.1 miliwn (65% o gyfanswm cost y cynllun) i’n helpu i drawsnewid y safle diffaith hwn yn gartrefi mawr eu hangen.

Gwyddom fod hyn yn swnio fel llawer o arian, ond mae adeiladu cartrefi newydd yn cryfhau ein capasiti i fenthyca arian gan fanciau – y gellir ei ailfuddsoddi yn eich cartref a’ch cymuned chi.

Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r contractwr CJ Construction o Gastell-nedd, a fydd yn cyflawni’r cynllun ac yn cyfrannu £5,000 mewn buddion cymunedol i gefnogi prosiectau lleol. Fel hyn, mae pawb ar eu hennill.

Meddai Rob Green, Cyfarwyddwr Twf a Phartneriaethau:

“Rydym yn edrych ymlaen at adfywio un arall o safleoedd gwag yr ardal, gan ddangos ein hangerdd dros fuddsoddi yng nghymunedau Pen-y-bont ar Ogwr.

“Drwy ganolbwyntio ar gynaliadwyedd yn y prosesau dylunio ac adeiladu, rydym yn darparu 12 o gartrefi sy’n addas ar gyfer y dyfodol ac yn gost-effeithiol i gwsmeriaid fyw’n dda ynddynt.

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r cwsmeriaid cyntaf ar ddiwedd y flwyddyn
nesaf.”

Byddwn yn eich cymuned ar 1 Gorffennaf!

Oes gennych chi gwestiwn brys, pryder neu awgrym am y datblygiad? Byddem wrth ein bodd yn cael sgwrs a phaned gyda chi!

Galwch heibio i’n sesiwn anffurfiol yn Halo ar 1 Gorffennaf, rhwng 4pm a 6pm i siarad â’n timau a bwrw golwg dros gynlluniau’r safle!