Diolch i’ch adborth chi, rydym yn lansio cystadleuaeth i ddathlu hyrwyddwyr lleol!

Rydym yn gwybod bod yna arwyr cudd sy’n gwneud Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwell, ac maen nhw’n haeddu cydnabyddiaeth ac anrheg o ddiolch gennym ni!

A allwch chi daflu sbotolau arnynt?

Enwebwch hyrwyddwr

Am beth y gallaf enwebu rhywun?

Bod yn hyrwyddwr cymunedol: Rhywun sy’n gwneud rhywbeth da er lles pobl yn ei gymuned. Gall yr unigolyn hwn fod yn helpu cymydog oedrannus gyda’r siopa, yn gwirfoddoli’n rheolaidd, neu’n rhedeg clwb lleol.

Hyrwyddwr ein gofodau awyr agored: Rhywun sy’n gofalu am ei ardd neu ei stryd, gan helpu’r gymuned i edrych ychydig yn well! Byddwch yn greadigol a meddyliwch am y plannwr balch sydd wedi tyfu’r blodyn haul talaf, y sawl sy’n tyfu’r tomatos mwyaf blasus, neu’r codwr sbwriel lleol.

Enwebiadau nawr ar agor

Treuliwch ddwy funud yn enwebu eich hun, cymydog neu ffrind cyn y 18fed o Awst! Os ydych chi’n enwebu rhywun am ofalu am ofod awyr agored, byddem wrth ein boddau’n gweld llun neu fideo ohoni, os yn bosibl, er mwyn i ni allu barnu’n deg.

Paratowch eich gardd!

Nid yw’n rhy hwyr i dorchi eich llewys a mynd i weithio ar eich gardd, a gallwch enwebu eich hun am eich gwaith caled! Os nad ydych chi’n siŵr ble i ddechrau, anfonwch neges e-bost i estates@v2c.org.uk am rai o’r awgrymiadau gorau.

Seremoni ym mis Medi

Byddwn yn barnu’r enwebiadau ar gyfer hyrwyddwr y gofodau awyr agored ym mis Awst.

Yna, byddwn yn dathlu’r hyrwyddwyr cymunedol a’r hyrwyddwyr gofodau awyr agored mewn seremoni wobrwyo ym mis Medi!

Bydd hwn yn gyfle i roi wynebau i enwau, dweud ‘diolch’ go iawn a mwynhau bwyd da a chwmni da.