Cyn y Nadolig, fe wnaethom gyhoeddi ein cynlluniau i adfywio Coed Bach Dimbath fel rhan o’n prosiect Twf er Daioni (Growth for Good). Dyma’r stori hyd yma…

Rhagfyr

Ein nod oedd cynnwys pobl leol ar y daith o’r dechrau, felly fe wnaethom gynnal digwyddiad ymgysylltu cymunedol ar Rodfa Dimbath ym mis Rhagfyr, lle ymunodd 20 o drigolion llawn cyffro â ni.

Fe wnaethant sefydlu grŵp WhatsApp i rannu syniadau, a phenderfynu ar yr enw Coed Bach Dimbath.

Ionawr llawn cyffro

Y prif bwyntiau:

● Cafodd ein Cynllun Rheoli Coetir ei gymeradwyo.
● Fe aethom ati i weithio a chreu llwybrau mynediad i mewn i’r coed a thrwyddynt.
● Fe wnaeth Greenspace osod gât i atal beiciau modur.

Hefyd ym mis Ionawr, cawsom y newyddion cyffrous fod Coed Bach Dimbath wedi’i ddewis i fod yn rhan o Lwybr Coedwig Genedlaethol i Gymru Llywodraeth Cymru, sy’n ymestyn ar draws hyd a lled y wlad!

I gloi mis llwyddiannus, fe lwyddom i sicrhau £18,400 ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i helpu i wella’r coetir gydag ystafell ddosbarth awyr agored, camerâu bywyd gwyllt a chuddfan ddyfrgwn!

Chwefror

Manteisio ar bob cyfle i fynd allan a siarad â phobl leol oedd pwrpas mis Chwefror. Fe wnaethom gynnal sesiwn ymgysylltu gyda Dechrau’n Deg Melin Ifan Ddu a Llais y Goedwig ar gyfer plant, rhieni, gofalwyr a staff i helpu i lywio datblygiad y prosiect. Dywedasant eu bod yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r coetir ar gyfer:

“Ymarfer corff i ffwrdd o draffig”.
“Archwilio natur a newidiadau tymhorol”.
“Bod yn yr awyr agored gyda’u rhai bach a chymryd rhan mewn gweithgareddau lleol”.

Mawrth – Ebrill

Yn gyntaf, fe wnaethom gynnal sesiwn i 18 o fyfyrwyr Garddwriaeth a thri darlithydd yng Ngholeg Pen-y-bont (Pencoed) i drafod fflora (planhigion) a ffawna (anifeiliaid) y coetir.

Fe wnaethom hefyd gynnal sesiwn yn Ysgol Gynradd Betws, lle daeth 150 o ddisgyblion o 10 ysgol leol ynghyd. Addurnodd y plant ddisgiau pren i wneud cerfwaith o goeden y byddwn yn ei arddangos yn falch yn ystafell ddosbarth awyr agored y coetir!

Diolchodd yr athrawon i ni am ddiwrnod diddorol, gan ddweud:

“Roedd y plant wrth eu boddau’n dysgu am y coetir a sut mae bod allan ym mhyllau natur yn dda i’r meddwl a’r corff. Ni allwn aros i ymweld â Choed Bach Dimbath!”

Ym mis Ebrill, fe wnaethom gynnydd sylweddol yn y coetir hefyd drwy osod llwybr hygyrch o’r fynedfa ger Teras Graig i’r ardal ystafell ddosbarth awyr agored (a ddangosir isod).

Camau Nesaf…

Mae’r haf yn argoeli bod yr un mor brysur. Byddwn yn gweithio gyda myfyrwyr Lefel 3 yng Ngholeg Pen-y-bont ar brosiect ymchwil i rywogaethau prin o dderw sydd yn y coed. Rydym hefyd yn edrych i gontractio rhywun ar gyfer y gwaith llwybrau.

Dewch i gael cipolwg ar y cynnydd!

Fe’ch gwahoddir i weld ein gwaith trawsnewid hyd yma mewn digwyddiad cymunedol a gynhelir ar 27ain Mai, 12pm tan 2pm.

Y man cyfarfod yw Teras Graig, Melin Ifan Ddu, CF35 6DU (a ddangosir isod).

Methu dod ond eisiau gwybod mwy neu gymryd rhan? E-bostiwch rachel.lovell@v2c.org.uk i gael sgwrs anffurfiol.

Dywedodd Rachel Lovell, Pennaeth Adfywio a Chynaliadwyedd:

“Rydym yn awyddus i gynnwys cymaint o drigolion, gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol a phartneriaid â phosibl wrth lunio dyfodol y rhaglen Twf er Daioni, ac nid yw ein prosiect Coed Bach Dimbath yn eithriad.”