Dros bythefnos ym mis Mawrth, fe wnaethom ymuno â thrigolion lleol i gasglu cyfanswm anhygoel o 200 o fagiau o sbwriel. Diolch o galon i bawb a ymunodd â ni!
Rydyn ni eisiau gwneud mwy na dim ond darparu a rheoli cartrefi: rydyn ni eisiau helpu ein cymunedau i ffynnu. Felly, pryd bynnag y cawn y cyfle, rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda chi i dacluso ein strydoedd!
Fe wnaethom ddechrau ym Mlaencaerau, gan glirio’r prysgwydd a chasglu digon o sbwriel i lenwi 45 o fagiau. Drannoeth ym Metws, cerddom o Woodland Close at yr ysgol leol a chlirio 46 o fagiau ychwanegol o sbwriel a gwastraff swmpus. Roedd yn waith caled, ond roedd gweld ein mannau cyffredin yn edrych yn lân ac yn daclus yn gwneud y cyfan yn werth chweil.
Wythnos yn ddiweddarach, aethom i Wildmill, Hen Fracla, Marlas, a Phorthcawl, er gwaethaf y tywydd gwlyb! Ar draws y pedair ystad, casglwyd 126 o fagiau o sbwriel a rhai eitemau annisgwyl iawn, gan
gynnwys troli siopa, bympar car, a phram hyd yn oed!
Roedd dros hanner y pethau a gasglwyd gennym yn ailgylchadwy, sydd wedi gwneud i ni ystyried sut y gallwn gefnogi ein cymunedau yn well i ailgylchu. Os oes gennych unrhyw syniadau, anfonwch e-bost atom yn customervoice@v2c.org.uk!
Er mai digwyddiad blynyddol yw Gwanwyn Glân Cymru, rydym wedi ymrwymo i gynnal mannau diogel a glân drwy gydol y flwyddyn – a chi?
Cofiwch, gallwch fenthyca ein hoffer codi sbwriel yn rhad ac am ddim. Anfonwch e-bost at litterpickinghub@v2c.org.uk i drefnu amser i’w nôl o’n swyddfa.