Wrth i Nos Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt nesáu, ein prif flaenoriaeth yw eich diogelwch yn eich cartrefi a’ch cymunedau. P’un ai fyddwch yn cerfio pwmpenni, addurno eich cartref, neu’n trefnu coelcerthi a thân gwyllt, mae gennym awgrymiadau diogelwch i sicrhau dathliad dychrynllyd o dda, ond
diogel.

Nos Galan Gaeaf

  • Cerfio Pwmpenni: Defnyddiwch oleuadau â batris i oleuo eich pwmpenni ‒ maen nhw’n ddewis mwy diogel na chanhwyllau ac maen nhw’r un mor ddeniadol.
  • Addurniadau Arswydus: Rhowch flaenoriaeth i ddiogelwch drwy ddefnyddio goleuadau â batris yn eich addurniadau annaearol. Does dim angen gofidio amdanynt, mae’n nhw’n para’n hirach, ac maent yn osgoi’r perygl o fflamau noeth yn eich cartref.
  • Gofal gyda’r Gannwyll: Os ydych yn dewis canhwyllau, cadwch nhw draw oddi wrth addurniadau a deunyddiau fflamadwy fel y gallwch eu mwynhau’n ddiogel.

Noson Tân Gwyllt
Fel arfer rydym yn argymell eich bod yn mynd i ddigwyddiadau wedi’u trefnu, ond rydym yn deall bod gan lawer o bobl eu traddodiadau eu hun sy’n golygu nifer o goelcerthi ac arddangosfeydd tân gwyllt. Mae’n hanfodol eich bod yn deall nad ydy unrhyw goelcerth yn gwbl ddiogel. Ond drwy ddilyn canllawiau, gallwn leihau’r risgiau a gwneud gwahaniaeth mawr. Dyma beth ydyn ni’n annog pobl i’w wneud:

  • Adeiladwch Eich Coelcerth yn Ddiogel: Gwnewch yn siŵr bod eich coelcerth i ffwrdd oddi wrth adeiladau, ffensys ac unrhyw ddeunyddiau fflamadwy.
  • Dim Hylifau Fflamadwy: Peidiwch fyth â defnyddio hylifau fflamadwy i gynnau coelcerth. Cadwch at ddulliau cynnau mwy diogel.
  • Dim Eitemau Peryglus: Peidiwch â llosgi eitemau fel caniau aerosol, tuniau paent, dodrefn sbwng neu fatris. Gall y rhain greu sefyllfaoedd peryglus.
  • Goruchwylio Coelcerthi: Peidiwch fyth â gadael coelcerthi heb oruchwyliaeth. Dylai oedolyn fod yn bresennol i’w goruchwylio nes iddynt ddiffodd yn llwyr.

Mae ein Gofalwyr Cymuned wrthi’n ymweld â’n cymdogaethau i gael gwared ag unrhyw eitemau allai fod yn beryglus ac atal unrhyw beryglon posibl. Yn ogystal, os bydd coelcerthi’n tyfu’n rhy fawr neu’n creu risg difrifol, byddwn yn cymryd camau i gael gwared â nhw. Os dewch ar draws coelcerth sy’n eich poeni yn eich ardal, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â’n Tîm Diogelwch yn y Cartref am gymorth:


E-bost: homesafetyteam@v2c.org.
Ffôn: 0300 123 2100


Am ganllawiau ychwanegol ar ddiogelwch, argymhellwn eich bod yn cadw at y cyngor a ddarperir gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Tân Gwyllt

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi rhannu’r awgrymiadau hanfodol hyn hefyd ynghylch tân gwyllt:

  • Dewiswch Dân Gwyllt Cymeradwy: Gwnewch yn siŵr bod yr holl dân gwyllt a ddefnyddiwch yn cydymffurfio â safonau a rheoliadau cymeradwy.
  • Sefwch yn Sobr: Osgowch alcohol wrth gynnau tân gwyllt, gan ei fod yn amharu ar eich sylwgarwch ac mae’n cynyddu’r risgiau.
  • Darllenwch y Cyfarwyddiadau’n Ofalus: Cadwch y tân gwyllt mewn blwch wedi’i gau a dilynwch y cyfarwyddiadau’n ofalus bob amser wrth eu defnyddio.
  • Cynnau’n Ddiogel: Dylech gynnau tân gwyllt ar hyd braich yn defnyddio tapr a chamu ymhell yn nôl i’ch diogelu eich hun.
  • Peidiwch Fyth a Mynd Nôl: Peidiwch fyth â mynd nôl at dân gwyllt ar ôl i chi ei gynnau. Hyd yn oed os yw’n edrych fel pe bai wedi methu, gallai ffrwydro beth bynnag.
  • Dim Taflu neu Bocedu: Peidiwch fyth â thaflu tân gwyllt, a dylech chi fyth, dan unrhyw amgylchiadau, eu rhoi yn eich poced.
  • Parchwch Eich Cymdogion: Byddwch yn ystyriol o’ch cymdogion trwy beidio â chynnau tân gwyllt yn hwyr yn y nos, a chadwch at y deddfau a’r rheoliadau lleol.
  • Diogelwch Ffyn Gwreichion: Cymerwch ofal gyda ffyn gwreichion a pheidiwch fyth â’u rhoi i blant dan bump oed. Hyd yn oed ar ôl iddyn nhw ddifodd, mae’n nhw’n aros yn boeth, felly rhowch nhw mewn bwced o ddŵr ar ôl eu defnyddio.
  • Cadwch Anifeiliaid Anwes yn y Tŷ: Gwnewch yn siŵr bod eich anifeiliaid anwes yn aros yn y tŷ drwy gydol y noson i’w cadw’n ddiogel ac yn ddigynnwrf.

Trwy ddilyn y canllawiau syml hyn, gallwn sicrhau dathliad diogel a hwyliog i bawb.