Mae awyrellau araf yn gadael awyr iach i lifo i mewn gan sicrhau bod eich cartref yn cael ei awyru’n dda.

Peidiwch â gorchuddio awyrellau eich ffenestri. Mae awyrellau araf yn lleihau lleithder, ac mae hyn yn bwysig i atal cyddwysiad a llwydni. Os ydych yn poeni bod eich ffenestr yn ddrafftiog, gwnewch yn siŵr nad yr awyrell araf ar waith sy’n ei achosi cyn cysylltu â’n Hyb gwasanaeth i gwsmeriaid i gael un newydd.

Er y gallech deimlo drafft, ni ddylai awyrellau araf gael effaith mawr at dymheredd yr ystafell. Ac mae pethau y gallwch eu gwneud i sicrhau bod eich cartref yn gynnes ac yn cael ei awyru’n dda ar yr un pryd:

  • Defnyddio llenni wedi’u leinio
  • Cadw drysau ar gau
  • Defnyddio rhimynnau drafft os oes angen
  • Cysylltwch â’n tîm Materion Ariannol os ydych yn ei chael hi’n anodd talu eich biliau gwresogi.
Angen help i reoli’ch arian? (Link opens in new window)

Mae gan ein Tîm Materion Arian gyfoeth o brofiad, a gall roi cymorth cyfrinachol a rhad ac am ddim i chi os ydych yn profi anawsterau ariannol.