Gan fod y tymereddau’n gostwng islaw’r rhewbwynt, rydyn ni eisiau sicrhau eich bod yn cadw’n ddiogel ac yn gynnes yn eich cartref y gaeaf hwn. Am ragor o gyngor, ewch i’r wefan UK Government’s guide to keeping warm and well

Dyma ein awgrymiadau gorau am ddelio â’r oerfel:

Gall mewnanadlu aer oer fod yn beryglus i’ch iechyd a’ch gwneud yn fwy agored i heintiau’r frest, felly mae’n bwysig eich bod yn cynnal tymheredd diogel yn eich cartref. Mae’r GIG yn argymell tymheredd cyson o 18°c o leiaf os gallwch.

Ynghyd â gwres canolog, mae ffyrdd eraill y gallwch gynhesu eich cartref: 

  • Defnyddiwch rimynnau drafft ar y bylchau yn eich ffenestri a drysau a chadwch y llenni ar gau gyda’r hwyr.
  • Cadwch ddodrefn i ffwrdd oddi wrth reiddiaduron a waliau allanol – mae hyn yn caniatáu i’r gwres o’r rheiddiaduron gylchdroi’n rhydd o gwmpas yr ystafell a byddwch yn teimlo llawer yn gynhesach wrth ochr waliau mewnol.
  • Gosodwch ryg ar deils neu lawr laminedig i inswleiddio’r lloriau.
  • Agorwch y llenni yn ystod y dydd i adael yr haul i mewn, a’u cau gyda’r hwyr i ddal y gwres i mewn – efallai byddai’n werth buddsoddi mewn pâr o lenni thermol fel inswleiddiad ychwanegol.
  • Ystyriwch brynu blanced drydan – maen nhw’n rhad i’w rhedeg a gallant gadw’ch gwely’n glyd ar nosweithiau oer.
  • Gwisgwch ddigon o haenau tenau – mae hyn yn dal gwres yn fwy effeithiol na dim ond gwisgo un haen drwchus 
  • Trwy gadw eich dwylo a’ch traed yn gynnes, byddwch yn helpu i gynhesu gweddill eich corff. Gwisgwch hosanau fflwffog, cynnes a phâr o fenig. Rydych hefyd yn colli gwres drwy eich pen, felly ystyriwch wisgo het o gwmpas y tŷ!
  • Mae symud o gwmpas a chadw’n brysur yn gwneud i’ch gwaed bwmpio gan eich cadw’n gynhesach. Os yw eich symudedd yn gyfyngedig, gall symud dim ond eich breichiau helpu hefyd.
  • Gwiriwch a ydych yn gymwys am y pigiad ffliw – mae am ddim i bobl dros 65, gofalwyr, a phobl sydd â chyflyrau iechyd tymor hir penodol – gofynnwch i’ch meddyg neu eich fferyllfa leol.

Pan fydd yn rhewi tu allan, y peth olaf rydych chi eisiau yw cael eich gadael heb wres neu ddŵr twym. I atal hyn a materion eraill rhag digwydd, argymhellwn eich bod yn gwneud ychydig wiriadau cynnal a chadw yn eich cartref y gaeaf hwn:

Efallai eich bod yn poeni am gostau byw’r gaeaf hwn, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod p’un ai fod gennych hawl i unrhyw gymorth ariannol. Mae nifer o gynlluniau ar gael gan y llywodraeth, yn cynnwys:

Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes

Mae Llywodraeth y DU yn newid y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes. Bydd y cynllun yn rhoi ad–daliad o £150 i gartrefi cymwys. Cewch fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn GOV.UK

Taliadau Tanwydd Gaeaf

Mae’r Taliadau Tanwydd Gaeaf yn dâl untro blynyddol i’ch helpu i dalu am wres yn ystod y gaeaf. Fel arfer gallwch gael Tâl Tanwydd Gaeaf os cawsoch eich geni ar neu cyn 26 Medi 1955. Gwiriwch faint o Dâl Tanwydd Gaeaf gallwch ei gael a sut i’w hawlio yn GOV.UK

Taliadau Tywydd Oer

Mae Taliadau Tywydd Oer yn daliadau untro i’ch helpu i dalu am gostau gwresogi ychwanegol pan fydd yn oer iawn. Byddwch yn cael tâl bob tro mae’r tymheredd yn disgyn islaw tymheredd penodol am gyfnod penodol o amser. Gallwch dderbyn Tâl Tywydd Oer os ydych yn derbyn y rhain yn barod:

  • Credyd Pensiwn
  • Cymorth Incwm
  • Lwfans Ceiswyr Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Cynhwysol

Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael eich talu’n awtomatig. Cewch fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Taliadau Tywydd Oer yn GOV.UK

Tanwydd amgen ar gyfer gwresogi

Efallai byddwch yn gymwys i dderbyn Tâl Tanwydd Amgen (AFP) o £200 os nad yw eich cartref wedi’i gysylltuiedig â’r grid prif gyflenwad nwy ac rydych yn defnyddio tanwydd amgen fel eich prif ffurf o wresogi.

Bydd y rhan fwyaf o gartrefi cymwys yn cael tâl AFP yn awtomatig.

Gwnewch gais am gymorth biliau tanwydd amgen os na wnaethoch ei dderbyn yn awtomatig.

Cymru Gynnes

Rydym yn partneru â Chymru Gynnes i helpu i sicrhau bod cartrefi ein cwsmeriaid yn ddiogel ac yn gynnes y gaeaf hwn.

Mae Cymru Gynnes, y cwmni buddiannau cymunedol cyntaf yng Nghymru, yn gweithio i leddfu tlodi tanwydd yng Nghymru a’r De Orllewin trwy brosiectau cymunedol a gweithio mewn partneriaeth.

Mae’r meysydd cymorth a ddarperir gan Gymru Gynnes yn cynnwys:

  • Diogelwch yn y Cartref: Gwybodaeth a chyngor ynglŷn â charbon monocsid, oerfel gormodol, lleithder a llwydni, a chymorth i gyrchu cynlluniau sy’n cynnig addasiadau yn y cartref. 
  • Gwneud y Gorau o Arian: Lleihau biliau ynni a dŵr, cymorth gyda dyled a chymorth gyda thai, ynghyd â mynediad at wiriadau budd-daliadau llawn i wneud yn siŵr eich bod yn hawlio popeth rydych yn gymwys i’w dderbyn.   
  • Cyngor Ynni a Chynhesrwydd Fforddiadwy: Cymorth gyda cheisiadau ar gyfer cynlluniau a ariennir gan grant, darparu boeleri newydd, systemau gwres canolog ac inswleiddiad i gartrefi cymwys; gwybodaeth a chyngor ynglŷn â mesuryddion deallus a deall biliau; cymorth i gyrchu cynlluniau disgownt yn cynnwys y Disgownt Cartrefi Cynnes.

Dysgwch fwy am sut gall Cymru Gynnes helpu yma.

Materion Ariannol

Mae gan ein Tîm Materion Ariannol gyfoeth o brofiad ac mae aelodau o’r tîm ar gael i roi cymorth cyfrinachol, am ddim, os ydych yn cael anawsterau ariannol.

Dyma rai o’r pethau gallwn siarad â chi amdanynt.

  • Y taliadau bydd angen i chi eu gwneud cyn symud i’ch cartref newydd, yn cynnwys biliau fel rhent, treth gyngor, a biliau dŵr, trydan, a nwy. Gallwn eich helpu i ffeindio’r cyflenwyr mwyaf fforddiadwy ar gyfer eich cyllideb, a rhoi gwybod i chi am unrhyw ddisgowntiau mae gennych hawl iddynt.
  • Beth fydd ei angen arnoch ar eich diwrnod symud tŷ – a all fod yn gostus yn aml pan fyddwch yn gorfod prynu’r hanfodion ar gyfer eich cartref. Gallwn eich cyfeirio at leoedd a all eich helpu i gael popeth sydd ei angen arnoch am bris isel.
  • Cymorth parhaus os ydych yn dechrau cael anhawster i dalu eich biliau.
  • Adolygu eich budd-daliadau, i sicrhau na fydd unrhyw newidiadau yn effeithio arnoch.
  • Mynd ar-lein, fel y gallwch gael y bargeinion gorau ar y farchnad, arbed arian drwy fynd yn ddi-bapur, a chadw mewn cysylltiad i gael diweddariadau pwysig.
  • Darparu cymorth, cyngor a mynediad at y gwasanaethau ariannol sydd eu hangen arnoch i wella eich lles ariannol.

Os hoffech gael cymorth, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ac mae angen help arnoch i’w hateb, cysylltwch â ni.

Materion Ariannol (Link opens in new window)

Mae gan ein Tîm Materion Ariannol gyfoeth o brofiad ac mae aelodau o’r tîm ar gael i roi cymorth cyfrinachol, am ddim, os ydych yn cael anawsterau ariannol.