Yng Nghymoedd i’r Arfordir, rydym yn ymrwymedig i ddarparu cartrefi y gallwch deimlo’n ddiogel a hapus ynddynt. Ond mae angen eich help a’ch cymorth chi arnom i wneud yn siŵr eich bod chi a’ch teulu a’ch ffrindiau’n cadw’n ddiogel.

Mae Wythnos Diogelwch Nwy yn wythnos ddiogelwch flynyddol i godi ymwybyddiaeth am ddiogelwch nwy a phwysigrwydd gofalu am eich cyfarpar nwy. Mae’n cael ei threfnu gan y Gofrestr Diogelwch Nwy, y rhestr swyddogol o beirianwyr nwy sydd â chaniatâd cyfreithiol i weithio ym myd nwy.  

Awgrymiadau Defnyddiol i Gadw’n Ddiogel

  • Gwiriwch y cyfarpar nwy am arwyddion sy’n rhybuddio nad ydynt yn gweithio’n gywir e.e. fflamau melyn diog yn lle rhai glas clir, marciau neu staeniau duon ar, neu o gwmpas y teclyn, a gormod o gyddwysiad yn yr ystafell.
  • Gosodwch larwm carbon monocsid clywadwy. Bydd hwn yn rhoi rhybudd i chi os oes carbon monocsid yn eich cartref.
  • Cadwch awyrellau a simneiau’n glir. Gwnewch yn siŵr nad ydych yn blocio unrhyw awyrellau ‒ mae’r rhain yn hanfodol i sicrhau bod cyfarpar nwy yn llosgi’n gywir, ac mae angen glanhau a gwirio simneiau yn rheolaidd. 
  • Defnyddiwch gyfarpar nwy at y pwrpas y’u bwriedir yn unig. Peidiwch â chael eich temtio i’w defnyddio at ddiben anaddas (e.e. defnyddio popty nwy i gynhesu ystafell).
  • Dylech wybod beth yw’r chwe phrif symptom o wenwyno carbon monocsid ‒ cur pen, pendro, diffyg anadl, cyfog, cwympo, a cholli ymwybyddiaeth.
  • Dylech wybod beth yw’r weithdrefn argyfwng. Os byddwch yn arogleuo nwy neu’n amau bob perygl disyfyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r weithdrefn argyfwng a ffoniwch y rhif perthnasol ar gyfer eich rhan chi o’r DU.
  • Lledaenwch y gair. Rhannwch wybodaeth diogelwch nwy hanfodol gyda ffrindiau, teulu a chymdogion i sicrhau bod eich cymuned yn cadw’n ddiogel.

Am ragor o wybodaeth ewch i GasSafe.

Gas safety advice (Link opens in new window)

Am ragor o wybodaeth ewch i ein tudalen Cyngor ar Ddiogelwch Nwy.