Beth yw Drws Tân? 

Pan fod argyfwng yn digwydd, mae drysau tân yn chwarae rhan hanfodol drwy sicrhau bod tân a mwg yn cael eu dal yn ôl nes i bobl gael amser i wacáu’r adeilad yn ddiogel. Mae’n bwysig iawn bod drysau tân yn cael eu cynnal mewn cyflwr gweithio er mwyn iddynt gyflawni’r swyddogaeth y cawsant eu dylunio ar ei chyfer.

Mae drysau tân yn darparu ar gyfer eich diogelwch chi a diogelwch eraill yn yr un adeilad. Trwy beryglu diogelwch y drysau, byddwch yn eich rhoi eich hunan ac eraill mewn perygl. Mae hyn yn cynnwys difrodi drysau a gwneud newidiadau fel gosod cloeon ychwanegol, syllwyr, clychau drysau, neu osod blychau llythyrau newydd o’r math anghywir heb ganiatâd.

Sut gallwch chi helpu 

Mae’n rhaid i ni wirio eich drysau tân i gadw’r holl ddeiliaid yn ddiogel. Byddem yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad yn ystod ein harchwiliadau. Gallwch wneud hyn drwy sicrhau bod gennym fynediad i’ch eiddo. Bydd hyn yn sicrhau bod ein harchwiliad mor effeithlon a darbodus â phosibl.

  • I ad-drefnu apwyntiadau, cysylltwch â ni ar 0300 123 2100 neu anfonwch e-bost at Compliance.FireSafety@v2c.org.uk
  • I roi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch eich drws tân, cysylltwch â’r Hyb ar 0300 123 2100 neu anfonwch e-bost at thehub@v2c.org.uk
  • Am bryderon a chyngor penodol ynglŷn ag agweddau eraill ar ddiogelwch tân, cysylltwch â’n tîm diogelwch yn y cartref drwy e-bostio Homesafetyteam@v2c.org.uk
Cyngor am ddiogelwch yn y cartref (Link opens in new window)

Am fwy o wybodaeth am cadw eich cartref yn ddiogel, ewch i Gyngor am ddiogelwch yn y cartref