Dymunwn ddatblygu diwylliant ‘gallu gwneud’ i gefnogi ein cwsmeriaid a’n cymunedau i bennu eu blaenoriaethau a nodi atebion.

Er mwyn cyflawni hyn, byddwn:

  1. Yn datblygu dull cydweithredol o weithredu ar draws y sefydliad ac â’n cwsmeriaid, i ddatblygu datblygiad cymunedol ar sail asedau, dyluniad gwasanaethau a ffocws ar ddull adferol o weithredu, er mwyn gwella gwydnwch ein cymunedau gymaint â phosibl.
  2. Ymchwilio i ddatblygu mentrau Cynhwysiant Digidol ar y cyd â phartneriaid.
  3. Ymchwilio ac ystyried ein hymgysylltiad â’r Siarter Creu Lleoedd a sut y gall hyn effeithio’n gadarnhaol ar ein cwsmeriaid a’n cymunedau i ddatblygu eu hymdeimlad o le.
  4. Cefnogi grwpiau cymunedol â sgiliau rheoli prosiectau i gynnal prosiectau a’u cyfeirio.

Ystadau ac Amgylcheddau Allanol (Link opens in new window)

Dymunwn ddarparu lleoedd allanol y mae ein cwsmeriaid yn eu gwerthfawrogi ac sy’n gwneud cyfraniad cadarnhaol at yr amgylchedd a lles ein cymunedau.