Dymunwn ddarparu lleoedd allanol y mae ein cwsmeriaid yn eu gwerthfawrogi ac sy’n gwneud cyfraniad cadarnhaol at yr amgylchedd a lles ein cymunedau.

I wneud hyn, byddwn yn:

  1. Datblygu polisi rheoli ystadau i ddarparu mannau allanol sy’n cyfrannu at ein cwsmeriaid a’r amgylchedd .
  2. Sefydlu prosesau ar gyfer asesu’r defnydd posibl o bob man agored cyhoeddus fel chwarae a thyfu cymunedol, mewn partneriaeth â chymunedau lleol.
  3. Archwilio cyfleoedd i gynnwys ein cwsmeriaid â thaliadau gwasanaeth, gwaredu asedau, trosglwyddo asedau cymunedol a defnydd yn y cyfamser o dir.
  4. Gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid a chwsmeriaid i hyrwyddo bioamrywiaeth ar draws ein hystadau.

Economi Sylfaenol (Link opens in new window)

Dymunwn gynyddu ein heffaith yn ein cymunedau gymaint â phosibl, a chofleidio’r cyfleoedd fel sefydliad angor allweddol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn yr economi sylfaenol, a byddwn yn gweithio o fewn cylch gwaith y Strategaeth Gwerth am Arian i gefnogi’r gadwyn gyflenwi leol.