Dymunwn gefnogi, cyfeirio a chydweithio ar fentrau sydd o fudd i les ein cwsmeriaid a’n cymunedau.

Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn:

  1. Cryfhau ein Cysylltiadau Strategol ag Awdurdodau Lleol, Bwrdd Iechyd Cwm Taf a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, a pharhau i gymryd rhan yn agenda Presgripsiynu Cymdeithasol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
  2. Archwilio cyfleoedd i gefnogi mentrau â Gwasanaethau Cymdeithasol a’r GIG sy’n canolbwyntio ar agenda ataliol, i gefnogi ein cwsmeriaid i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi.
  3. Cryfhau ein hymrwymiadau â’r Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl a Gofal a Thrwsio a chysoni ein blaenoriaethau strategol i sicrhau’r buddion mwyaf posibl i’n cwsmeriaid.

Nodi partneriaethau rhanbarthol a lleol, rhwydweithiau ac asiantaethau cymorth y trydydd sector sy’n ategu ac ychwanegu gwerth i’n gwasanaethau a chefnogi lles ein cymunedau, a mapio’r rhain.     

Gwydnwch Cymunedol (Link opens in new window)

Dymunwn ddatblygu diwylliant ‘gallu gwneud’ i gefnogi ein cwsmeriaid a’n cymunedau i bennu eu blaenoriaethau a nodi atebion.