Dymunwn gefnogi ein preswylwyr i wella eu sgiliau cyflogadwyedd a byddwn yn eu cyfeirio ac yn cydweithio ar fentrau a chyfleoedd. 

Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn:

  1. Datblygu ein capasiti ar gyfer prentisiaethau, profiad gwaith a gwirfoddoli ar y cyd ag asiantaethau allanol sy’n darparu gwaith a hyfforddiant. 
  2. Cydweithio â Chyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr a chefnogi eu mentrau i’n cwsmeriaid.
  3. Adolygu Blaenoriaethau Strategol Coleg Pen-y-bont ar Ogwr trwy’r Cynllun Strategol, a sicrhau synergedd i gefnogi ein cwsmeriaid sy’n oedolion sy’n ddysgwyr a chysylltu â chyflogwyr mwy ar draws y Fwrdeistref. 
  4. Hyrwyddo manteision GRANT finder yn fewnol ac archwilio cyfleoedd ariannu allanol ar gyfer mentrau cydweithredol i’r sefydliad a’r rhanddeiliaid sy’n cynnwys grantiau, cymynroddion a chyfrifon segur.

Iechyd a Lles (Link opens in new window)

Dymunwn gefnogi, cyfeirio a chydweithio ar fentrau sydd o fudd i les ein cwsmeriaid a’n cymunedau.