Dymunwn gynyddu ein heffaith yn ein cymunedau gymaint â phosibl, a chofleidio’r cyfleoedd fel sefydliad angor allweddol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn yr economi sylfaenol, a byddwn yn gweithio o fewn cylch gwaith y Strategaeth Gwerth am Arian i gefnogi’r gadwyn gyflenwi leol. Byddwn yn herio’r ffordd rydym wedi darparu buddion cymunedol yn y gorffennol, ac yn ceisio defnyddio ein buddsoddiadau i wella lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ledled y Sir.

Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn:

  1. Datblygu Polisi Effaith Gymdeithasol sy’n manylu ar ein gwerthoedd cymdeithasol ac yn pennu ein dangosyddion gwerth cymdeithasol gan ystyried ymarferion gorau’r sector ac adborth gan gwsmeriaid. 
  2. Sefydlu methodoleg i gofnodi a mesur effaith gymdeithasol, canlyniadau a gwerth a gynhyrchir o weithgaredd caffael, ein portffolio masnachol a mentrau eraill a sefydlu fframwaith i adrodd ar werth cymdeithasol i’r busnes, ein Bwrdd, ein cwsmeriaid a rhanddeiliaid allanol. 
  3. Gweithio â Chaffael i bennu ein gofynion buddion cymunedol ym mhob contract, gan gynnwys gwariant pen cynffon a hyrwyddo a datblygu diwylliant mewnol ac allanol effaith gymdeithasol trwy gefnogi’r Datganiad Gallu Gwneud a phecynnau cymorth newydd i’r holl randdeiliaid.
  4. Gweithio’n agos â’n partneriaid statudol ac yn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i sicrhau canlyniadau cadarnhaol yn ein cymdogaethau a cheisio nodi cyfleoedd i ddatblygu’r economi sylfaenol ym Mhen-y-bont ar Ogwr trwy gydweithio â phartneriaid a mentrau cefnogol.
Cyfoeth a Chyflogadwyedd (Link opens in new window)

Dymunwn gefnogi ein preswylwyr i wella eu sgiliau cyflogadwyedd a byddwn yn eu cyfeirio ac yn cydweithio ar fentrau a chyfleoedd.