Sut gallwn ni helpu?
Dyma rai o’r pethau y gallwn siarad â chi amdanynt.
- Y taliadau y bydd angen i chi eu gwneud cyn symud i’ch cartref newydd, gan gynnwys biliau fel rhent, y dreth gyngor, dŵr, trydan a biliau nwy. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r cyflenwyr mwyaf fforddiadwy ar gyfer eich cyllideb, a rhoi gwybod i chi am unrhyw ostyngiadau y mae gennych hawl iddynt.
- Yr hyn y bydd ei angen arnoch ar eich diwrnod symud, a all yn aml fod yn gostus wrth ddodrefnu eich cartref gyda’r hanfodion. Gallwn eich cyfeirio at leoedd a all eich helpu i gael y cyfan sydd ei angen arnoch am gost isel.
- Cymorth parhaus os byddwch yn dechrau cael trafferth talu eich biliau.
- Adolygu eich budd-daliadau, er mwyn sicrhau na fydd unrhyw newidiadau yn effeithio arnoch.
- Mynd ar-lein, fel y gallwch gael y bargeinion gorau ar y farchnad, arbed arian drwy fynd yn ddi-bapur, ac aros yn gysylltiedig am ddiweddariadau pwysig.
- Darparu cymorth, cyngor a mynediad i’r gwasanaethau ariannol sydd eu hangen arnoch i wella’ch lles ariannol.
Os hoffech gael rhywfaint o gefnogaeth, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau y mae angen help arnoch i’w hateb, yna cysylltwch â ni.
Os hoffech i ni eich ffonio, yna gofynnwch am alwad yn ôl yma.