I ddathlu’r effaith cadarnhaol mae gerddi hardd, mannau cyhoeddus, a gwyrddni yn ei gael ar ein cymunedau, diweddodd ein chwiliad am y gerddi a’r mannau gwyrdd gorau ym Mhen-y-bont ar Ogwr eleni yn ein seremoni wobrwyo ddiweddar.

Daeth ein hymgeiswyr at ei gilydd yng Nghanolfan Gymunedol Bryncethin ar gyfer y Gwobrau #TyfuAmAur lle buom yn cydnabod ac yn gwobrwyo’r cwsmeriaid gwych sy’n gweithio’n galed i gynnal eu gerddi a’n mannau gwyrdd. Roedd hwn yn gyfle i’r ymgeiswyr fwynhau cinio hyfryd gyda’r garddwyr brwd eraill a dathlu ymdrechion ei gilydd.

Roedd ein beirniaid wedi rhyfeddu wrth ansawdd y cynigion eleni, felly diolch yn fawr a da iawn i bawb a gyflwynodd eu gardd neu a enwebodd gymydog – mae wedi bod yn bleser llwyr. Diolch hefyd i ASW a noddodd gystadleuaeth eleni yn rhannol. 

Yr Ardd Orau

Mae’r categori hwn ar gyfer yr ardd orau oll. Yn y categori hwn, roedd ein beirniaid yn ystyried y defnydd o le, yr amrywiaeth o rywogaethau, cyflwr llwybrau, lawntiau a mannau eistedd allanol, yn cynnwys bywyd gwyllt a glendid.

ENILLYDD: Griffiths Samuel Morris

Disgrifiodd ein beirniaid yr ardd hon fel “llawn hwyl”, “pleserus dros ben[…] cymaint i’w weld” ac roeddent yn edmygu’r amrywiaeth yn yr ardd a oedd yn cynnwys popeth, o fath adar ac addurniadau i lysiau, casgenni dŵr, a blodau hyfryd. Roedd yr ardd yn sefyll allan yn syth gyda’i lliwiau llachar a’i haddurniadau hynod – roedd yn goleuo’r stryd gyfan. Llongyfarchiadau i’n gardd orau oll!

Gardd Fwytadwy

Yn y categori hwn, edrychom ar yr amrywiaeth o gynnyrch a dyfwyd, cynllun taclus, ymarferoldeb, y defnydd o gompost, a safon y cnydau.

ENILLYDD: Bożena Jaszczyszyn

Un o’r pethau a nododd y beirniaid ar unwaith ynglŷn â’r ardd hon oedd cymaint o waith oedd wedi’i gysegru iddi. Yn ogystal â’r amrywiaeth o gnydau o ansawdd da a dyfwyd, roedd golwg cyffredinol yr ardd o safon uchel hefyd, gan ddangos y gall rhandiroedd fod yn ymarferol ac yn hardd.

Gardd Eco

Ar gyfer ein Gerddi Eco, ystyriwyd y defnydd creadigol o ddefnyddiau wedi’u hailgylchu a chydrannau wedi’u huwchgylchu, a’r budd i fywyd gwyllt lleol fel tai draenogiaid a phlanhigion sy’n denu peillyddion.

ENILLYDD: Geraint Evans

“Hynod dros ben” yw sut disgrifiodd ein beirniaid yr ardd hon, sy’n llawn personoliaeth. Mae’n cynnwys llawer o eitemau wedi’u hailddefnyddio o wiail pysgota, paledi pren, caetsys adar a hyd yn oed ffyrnau pizza. Yn ogystal â’r defnyddiau wedi’u hailgylchu, roedd yna westy chwilod ac amrywiaeth o blanhigion a chynnyrch yn tyfu ynddi hefyd – enghraifft wych o ardd eco.

Mannau Bach

Mannau Bach yw’r categori ar gyfer ymgeiswyr nad oes ganddynt ardd anferth, neu sydd efallai heb ardd o gwbl, ond sydd wedi gwneud y gorau o’r mannau sydd ganddynt. Ystyriodd y beirniaid sut gwnaed y defnydd gorau o’r man, y cyflwyniad, yr amrywiaeth o blanhigion a blodau, ac iechyd y planhigion.

ENILLYDD: Elke Williams

Ystyriodd ein beirniaid bod gardd Elke yn drawiadol ac yn sefyll allan ar unwaith yn y cwrt oherwydd ei lliwiau llachar. Nododd y beirniaid yr amrywiaeth o flodau a’u huchder, gan fod hyn oll yn gwneud defnydd rhagorol o’r man ac yn creu gardd i’w mwynhau.

Ailwampio Gardd

Roedd y categori newydd hwn yn ein cystadleuaeth yn edrych ar yr “O’r Blaen a’r Wedyn” gorau i bobl sydd wedi cyflawni’r gwelliant mwyaf ar eu darn o dir. Boed tenant newydd yn personoli eu llecyn eu hun, neu rywun a benderfynodd ei bod yn bryd cael newid llwyr, mae’r categori hwn yn gwerthfawrogi’r rhai sydd wedi cymryd amser i drawsnewid man dirywiedig yn fan glân, taclus a mwy deniadol.

ENILLYDD: Rebecca Hopkins

CYN
AR OL
AR OL

“Mae’n hawdd gweld y gwaith caled sydd wedi ei gysegru i fan lle gall plant fwynhau” meddai ein beirniaid a edmygodd sut roedd y man wedi cael ei dacluso a’i drawsnewid yn llwyr, ac nid yn unig golwg y man ond hefyd ei ddefnydd ymarferol – mae’n dyst amlwg i’r amser a’r ymdrech a gysegrwyd iddo.

Pencampwr Cymuned

Wrth ddewis ein Pencampwr Cymuned, roeddem yn ystyried sut mae’r man yn dod â budd i’r gymuned leol ac i fioamrywiaeth ynghyd â’r defnydd creadigol o le ac ymarferoldeb.

ENILLYDD: Clwb Ieuenctid Wildmill

“Defnydd gwych o le sy’n dod a llawer o fuddion i bobl ifanc y gymuned” – mae hyn yn crynhoi teimlad y categori hwn. Dewisodd ein beirniaid yr ardd lewyrchus hon yn enillydd oherwydd yr ymdrech cydweithredol amlwg sydd ynghlwm wrthi, ynghyd â’r effaith cadarnhaol mae’n ei gael ar fioamrywiaeth a’r gymuned leol. 


Wrth ddisgrifio’r digwyddiad, dywedodd Georgia Williams, Partner Ymgysylltu â’r Gymuned: “Rydym mor falch o gael dathlu gwaith caled y cwsmeriaid hyn wrth drin eu gerddi.

Mae eu hymdrechion wir yn helpu i fywiogi’r gymuned gyfan, a gobeithiwn y bydd hyn yn ysbrydoli pobl eraill i roi cynnig arni yn eu cartref neu eu cymuned eu hun – rydym wedi gweld cymaint o amrywiaeth o fannau gwyrdd, mae’n dangos bod yna rywbeth i bawb! Rydym yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf yn barod, a chael gweld mwy fyth o erddi a mannau gwyrdd anhygoel.”