Rhan o’n gwaith ni yma yn Cymoedd i’r Arfordir yw gwrando arnoch chi a gweithredu ar yr wybodaeth byddwch chi’n ei rhoi i ni. Yn 2024, rydyn ni am ganolbwyntio ar hyn drwy gynnig rhagor o gyfleoedd i chi ymgysylltu â ni a chymryd rhan.  

I ddechrau arni, rydyn ni’n lansio ein ‘Cwestiwn y Mis’ newydd. Bob mis, byddwn yn gofyn un cwestiwn syml i chi. 

Cadwch lygad ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol. Bydd ein Hyb hefyd yn gofyn ‘Cwestiwn y Mis’ i chi os byddwch chi’n galw heibio i’n gweld ni ac efallai bydd cydweithwyr eraill yn ei ofyn i chi hefyd. 

Ar ddiwedd pob mis, byddwn yn cyhoeddi’r canlyniadau ac yn cymryd unrhyw gamau gweithredu angenrheidiol, ac yn gwneud unrhyw welliannau a rhagor o waith ymgysylltu y byddwn yn ei nodi. Bydd eich atebion chi yn ein helpu i wella ein gwasanaethau ac yn gwneud yn siŵr ein bod yn gwrando ar eich llais yn rheolaidd.  

A white postcard hanging by a peg on a length of string, on a wooden background with the words Question of the Month in red text
Sut mae cymryd rhan?  (Link opens in new window)

Bydden ni’n hoffi i chi awgrymu pa fath o gwestiynau byddech chi’n hoffi i ni eu gofyn. Dyma enghreifftiau o’r pethau bydden ni’n hoffi eu gofyn – Ydych chi’n defnyddio ein gwefan?  Oedd ein cylchlythyr diweddaraf yn ddefnyddiol? Sut byddech chi’n hoffi cael yr wybodaeth ddiweddaraf gennym ni? Bydd un cwsmer yn cael ei ddewis ar hap bob mis i dderbyn taleb siopa gwerth £20 yn ddiolch am gymryd rhan. Cadwch lygad am ‘Gwestiwn y Mis’ a’n helpu i glywed eich llais.