Yr Hydref hwn, mae Cymoedd i’r Arfordir yn falch o gyflwyno tri digwyddiad Nos Galan Gaeaf bwganllyd ar ôl ysgol sy’n addo amser ysbrydoledig o dda i deuluoedd ar draws y gymuned.

Ymunwch â ni am amser arswydus o dda yn y ddau ddigwyddiad cyffrous hyn, a gynhelir rhwng 3pm a 5pm:

🗓️ Dydd Mawrth, 24 Hydref ym Mhencoed 

🗓️ Dydd Mercher, 25 Hydref yng Nghefn Cribwr 

Byddwn hefyd yn ymuno â Chyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn eu Nos Galan Gaeaf Ysbrydoledig yn Evanstown ar 31 Hydref. Ymunwch â ni ym Mharc Llesiant Evanstown ger Heol y Parc, CF39 8RH rhwng 10am ac 1pm. 

Beth sydd ar y Gweill?

Mae ein tîm Cyfranogiad Cwsmeriaid wedi consurio agenda dychrynllyd o ddifyr i sicrhau bod pawb yn cael amser anhygoel. Dyma beth allwch ei ddisgwyl:

🎃 Celf a Chrefftau Nos Galan Gaeaf: Cyfle i fod yn greadigol gyda gweithgareddau celf a chrefft iasol.

💡 Cyngor Lleithder a Llwydni: Bydd ein tîm wrth law i rannu cyngor ynghylch mynd i’r afael â lleithder a llwydni, gan sicrhau bod eich cartref yn glyd ac yn gyfforddus ar gyfer y tymor oer o’n blaen.

👫 Partneriaid lleol: Bydd partneriaid fel Yr Ymddiriedolaeth Cŵn, Amddiffyn Cathod a Baobab Community Pantries yn ymuno â ni.

💷 Materion Ariannol: Angen cyngor ariannol arnoch? Bydd ein tîm Materion Ariannol ar gael i ddarparu cyngor ariannol cyfrinachol am ddim.

Sut i Ymuno â’r Hwyl

Mae ein digwyddiadau Nos Galan Gaeaf am ddim yn agored i holl aelodau’r gymuned. Nodwch y dyddiad ar eich calendr, a’r lleoliad sy’n eich siwtio orau, a galwch heibio gyda’r plantos am amser cythreulig o bleserus.

Awn ati i greu Nos Galan Gaeaf i’w chofio i bawb!

Gwelwn ni chi yno, os mentrwch! 🕷️🕸️🦇🌕