Rydym yn falch iawn o dderbyn cydnabyddiaeth genedlaethol yng Ngwobrau Arfer Da Cenedlaethol TPAS Cymru 2026. Enillodd ein menter drawsnewidiol – ‘Ein Gardd, Ein Dewis’, yr ail wobr yn y categori ‘Tenantiaid yn Dylanwadu ar Benderfyniadau’.

Roedd yn braf cael dathlu’r garreg filltir hon gyda rhai o’n cwsmeriaid, Jennifer a Colin, a ymunodd â ni yn y seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd y mis diwethaf.

Creu gerddi y gall ein cwsmeriaid fod yn falch ohonynt

Pan ddaeth amser adolygu ein contract cynnal a chadw tir allanol yn 2025, gwelodd ein Tîm Ystadau gyfle i roi gwell gwasanaeth i gwsmeriaid.

Yn ystod sgyrsiau cynnar, sylweddolom na allai’r rheiny sydd â symudedd cyfyngedig fwynhau eu gerddi eu hunain. Ar ôl gwrando’n astud ar adborth, rhoesom y gorau i’r contract allanol cyffredinol a dod â gwaith cynnal a chadw tir yn fewnol ar gyfer ein saith cynllun byw yn y gymuned. Bu hyn yn fodd i ni fwrw ati a thrawsnewid eu gerddi ein hunain.

Fel y dywedodd un cwsmer, Colin: “Mae Cymoedd i’r Arfordir wedi trawsnewid ein gardd drwy glirio coed, llwyni a phrysgwydd oedd wedi tyfu’n wyllt ac ailwampio’r mannau palmantog!”

Mwy na dim ond torri gwair

Byddwn hefyd yn plannu gwelyau blodau ac yn cynnal y mannau storio awyr agored ar draws ein cynlluniau tai gwarchod i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael mwy am eu taliadau gwasanaeth.

Mae’r fenter hon wedi profi bod cynnal a chadw tir yn ymwneud ag adeiladu ymddiriedaeth drwy roi adborth cwsmeriaid ar waith.

Drwy dreulio mwy o amser yn eu gerddi, mae cwsmeriaid wedi meithrin cyfeillgarwch newydd wrth iddynt fwynhau’r tywydd cynnes gyda’i gilydd.

Rydym hyd yn oed wedi llwyddo i ostwng y taliadau gwasanaeth wythnosol o ryw £1 yr wythnos ar gyfartaledd i’n cwsmeriaid.

Parti gardd i’w gofio

Er mai dim ond nifer fach o gydweithwyr a chwsmeriaid a gafodd fynychu’r seremoni wobrwyo, fe gynhaliom barti haf yn ein Cynllun Gofal Ychwanegol yn Llys Ton.

Roedd y prynhawn yn llawn dop o weithgareddau, gan gynnwys:

  • Gemau gardd – a llwyddiant annisgwyl y diwrnod oedd taflu bwyelli!
  • The Choral Coasters, a gododd galon pawb gyda’u canu.
  • Ymunodd crwban â ni hefyd, ac fe ddaeth yn fasgot answyddogol y prynhawn!

Diolch yn fawr i’n cwsmeriaid am rannu eu profiadau onest gyda ni, ac i’n Tîm Ystadau am sicrhau bod y rhain yn cael eu hadlewyrchu yn y gwelliannau i’r gerddi.